Cyf: LCO-032
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Dydd Gwyl Ddewi
Nick Ramsay
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn ychwanegu mater dan Faes 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer dathlu Dydd Gwyl Ddewi.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Pwrpas y Gorchymyn yw caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio mesur i amrywio gwyliau cyhoeddus yng Nghymru.