Cyf: LCO-047
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Hybu Bwydo o’r Fron
Nerys Evans
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Ychwanegu’r Mater canlynol at Maes 9: (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd) -
ei gwneud hi’n drosedd atal neu rwystro rhywun sydd yng ngofal plentyn sydd, fel arall, â hawl i fod mewn man cyhoeddus neu eiddo trwyddedig, rhag bwydo llaeth i’r plentyn hwnnw yn y lle hwnnw neu yn yr eiddo hwnnw; darparu ar gyfer hybu bwydo o’r fron; ac at ddibenion cysylltiol.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Bydd y Gorchymyn Deddfwriaethol hwn yn hybu bwydo o’r fron a’i fanteision i iechyd trwy ei gwneud hi’n haws i famau fwydo o’r fron yn gyhoeddus. Bydd yn ei gwneud hi’n drosedd atal neu rwystro mamau rhag bwydo o’r fron yn gyhoeddus.
Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw rwystrau cymdeithasol rhag bwydo o’r fron, a’r manteision aruthrol i iechyd a dderbynia’r plentyn.