Cyf: LCO1-084

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Hwyluso Mynediad at Wasanaethau Ariannol

Rhodri Glyn Thomas

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Gwneud darpariaeth i wella mynediad at Dele Beiriannau Awtomatig mewn cymunedau incwm isel.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig

Ychydig o lwybrau at beiriannau ATM sydd gan sawl cymuned yng Nghymru.

Pwrpas y Gorchymyn hwn yw gwneud teuluoedd incwm isel yn llai agored i gael eu hallgáu ac wynebu dyled drwy sicrhau bod ganddynt y cyfle gorau posibl i gael llwybr at beiriannau arian parod heb wynebu ffioedd nad ydynt yn gallu eu fforddio.  

Mae’r gost o ddarparu peiriannau ATM yn amhosibl o ddrud mewn rhai ardaloedd. Mae newidiadau diweddar i brisiau’n golygu bod tynnu arian unwaith wedi codi i gymaint â £2.50. Gellid lliniaru’r gost trwy ddad-drethu eiddo neu rannau o eiddo lle bod angen i’r peiriant ATM a ddarperir gysylltu â’r ardaloedd dan sylw.  Cymerwyd camau o’r fath yn yr Alban.

Partneriaid a Help