Cyf: LCO-077
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Cynlluniau Teithio Datblygiadau Mawr
Jenny Randerson
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu i fynnu bod pob datblygiad defnydd tir mawr yn cyhoeddi ac yn gweithredu ‘cynllun teithio’ fel un o’r amod caniatâd cynllunio.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Bydd y ffordd yr ydym yn meddwl am drafnidiaeth yn chwarae rhan fwy byth wrth i ni newid i fod yn economi rhad-ar-carbon.
Ar hyn o bryd, mae gormod o ddatblygiadau preswyl a masnachol yn cael eu hadeiladu gan ystyried ceir, ac o ganlyniad, mae hi’n anodd cyrraedd y datblygiadau hyn ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar droed. Nid yw hyn yn lliniaru’r ddibyniaeth ar y car.
Mae hi’n hanfodol bod pob datblygiad cynllunio mawr, newydd yn ystyried arferion trafnidiaeth pobl ac yn mabwysiadu cynllun trafnidiaeth yn y datblygiad a allai, ymysg pethau eraill, sicrhau bod digon o gwmpas ar gyfer darparu trafnidiaeth gyhoeddus hwylus, digon o fannau parcio, cysylltiadau seiclo integredig yn ogystal â sicrhau bod modd cyrraedd y datblygiad ar droed.
Mae’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn yn ceisio’r pwerau i gyflwyno gofyniad bod pob datblygiad defnydd tir mawr, newydd dros faint penodol yn cyhoeddi ac yn gweithredu cynllun teithio fel un o amodau’r caniatâd cynllunio.
Cefnogaeth a dderbyniwyd
Yr wyf wedi cael cefnogaeth eang ar gyfer y cynnig hwn gan Sustrans.
