Cyf: LCO-078

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Arwynebau Caled

Joyce Watson

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyswllt adeiladu a/neu ddisodli arwynebau caled sy’n gysylltiedig â mwynhau eiddo preswyl neu ddarparu mynedfeydd ac allanfeydd i gerddwyr ac i gerbydau i eiddo preswyl newydd.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig

Diben y Gorchymyn hwn yw caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio Mesur i sicrhau pan fydd arwyneb caled yn cael ei adeiladu a/neu ei ddisodli ei fod yn cael ei wneud o ddeunydd hydraidd neu fod darpariaeth yn cael ei gwneud i sicrhau bod dŵr ffo o’r arwyneb caled yn cael ei gyfeirio at arwyneb athraidd neu hydraidd.

Partneriaid a Help