Cyf: LCO1-081
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Parcio ar gyfer Pobl Anabl
Chris Franks
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Diwygio Maes 10 Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn: Darpariaeth sy’n ymwneud â pharcio ar gyfer pobl anabl.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Cefndir
Yn 2007, cyhoeddodd yr Ymgyrch Baywatch, mudiad sy’n ceisio rhoi diwedd ar gamddefnyddio mannau parcio ledled y DU, ymchwil yn dangos bod pobl nad ydynt yn anabl yn defnyddio 1 o bob pum man parcio ar gyfer pobl anabl.
Mewn ardaloedd trefol megis Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, mae’n aml yn anodd i fodurwyr barcio’n hwylus ar gyfer canolfannau siopa neu amwynderau sifil pwysig. Er mwyn helpu modurwyr anabl, mae cynghorau olynol wedi pennu nifer fach o fannau parcio ar gyfer pobl anabl sydd â Bathodyn Glas. Yn anffodus, nid yw’r mannau hyn wedi cael eu gorfodi. Mae’n gyffredin iawn dod o hyd i bobl heb Fathodyn Glas yn defnyddio mannau parcio ar gyfer pobl anabl oherwydd bod y mannau yn nes at ganolfan siopa.
Yn y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol, yr Heddlu sy’n gyfrifol am orfodi parcio ar strydoedd. Dim ond nifer fach o gynghorau sydd wedi dad-droseddoli eu gorfodaeth parcio ac felly caniatáu cyflogi swyddogion parcio i orfodi parcio anghyfreithlon mewn mannau parcio ar gyfer pobl anabl. Nid yw gorfodi mannau parcio ar gyfer pobl anabl yn flaenoriaeth ar gyfer unrhyw un o’r pedwar Awdurdod Heddlu ac felly ni fu llawer o fuddsoddiad mewn recriwtio Wardeniaid Traffig.
Mae mannau parcio ar gyfer pobl anabl mewn meysydd parcio oddi ar strydoedd yn tueddu i fod yn ymgynghorol a hyd yn oed yn llai gorfodadwy na pharcio ar y stryd.
Mae Deddf Rheoli Traffig 2004 yn gosod allan y rheoliadau cyfredol o ran rheoleiddio mannau parcio ar gyfer pobl anabl.
Amcanion Polisi’r Gorchymyn
- Cyflwyno cymhwysedd deddfwriaethol dros barcio ar gyfer pobl anabl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
- Egluro a chodeiddio’r gyfraith yng nghyswllt mannau parcio ar gyfer pobl anabl mewn un darn o ddeddfwriaeth.
- Galluogi cyflwyno Mesur i roi mwy o bwer i orfodi mannau parcio ar gyfer pobl anabl.
- Mwy o gyfleoedd i bobl anabl ddefnyddio canolfannau siopa lleol a gwasanaethau eraill.
Cafwyd cefnogaeth gan Gymdeithas MS Cymru
