Cyf: LCO-087
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Cartrefi mewn Parciau
Kirsty Williams
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Diwygio maes perthnasol Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i wneud darpariaethau sy’n ymwneud â rheoleiddio gwerthu carafannau preswyl, cartrefi symudol a chartrefi mewn parciau a gwneud darpariaethau sy’n ymwneud â sefydlu dulliau cymrodeddu amgen.
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Diben y Gorchymyn Arfaethedig hwn yw rhoi i’r Cynulliad Cenedlaethol y pwer i reoleiddio’n decach y broses a ddefnyddir i werthu carafannau preswyl a chartrefi symudol yng Nghymru. Yn bennaf byddwn yn ceisio sicrhau bod negodiadau rhwng perchnogion safleoedd a pherchnogion cartrefi mewn parciau yn cael eu monitro’n annibynnol a bod system cymrodeddu ar gyfer perchnogion sy’n pryderu ynghylch y broses.
Cefndir
Mae gan berchnogion Cartrefi mewn Parciau, yn yr un modd â pherchnogion unrhyw gartref, hawl i werthu eu cartrefi. Yn anffodus, mae lleiafrif o weithredwyr parciau diegwyddor yn gallu defnyddio bylchau yn y ddeddfwriaeth gyfredol i rwystro darpar brynwyr rhag prynu cartrefi a arferai fod yn berchen i bobl ar y safle. Ar y cam “cymeradwyo’r prynwr’, bydd gweithredwyr parciau’n cwrdd â darpar brynwyr ac, yn honedig, yn rhwystro darpar brynwyr gyda sylwadau negyddol a fwriedir i atal y gwerthu. O ganlyniad, bydd nifer o berchnogion cartrefi mewn parciau ond yn gallu gwerthu i berchnogion y safle am swm sydd fel rheol yn ffigur is o lawer na gwerth y farchnad.
Mewn lleiafrif o drafodion y gwelir digwyddiadau o’r fath, ond gallant achosi llawer iawn o drallod, yn ogystal â cholled ariannol i berchnogion cartrefi mewn parciau oherwydd bwlch yn y ddeddfwriaeth a ddyluniwyd i’w hamddiffyn. Yn yr un modd, ceir nifer o ddigwyddiadau tebyg lle nad yw’r perthynas agosaf wedi cael mynediad i farchnad deg oherwydd gweithredoedd rhai perchnogion safleoedd. Yn olaf, mae hyn hefyd yn difrodi enw da’r holl ddiwydiant (sydd yn sylweddol mewn sawl rhan o Gymru) ac yn staen ar enw da’r rhan fwyaf o berchnogion safleoedd da.
Mae ein Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn ceisio tynnu i lawr i Gymru’r pwerau i ddatblygu deddfwriaeth i sicrhau bod cyfarfodydd rhwng darpar brynwyr a pherchnogion safleoedd yn cael eu monitro’n annibynnol a sefydlu system cymrodeddu ar gyfer perchnogion cartrefi mewn parciau sy’n teimlo eu bod wedi colli arian o ganlyniad i’r broblem hon.
