Y Trydydd Cynulliad (2007 - 2011)
Gwybodaeth am y Broses Ddeddfu
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) yn galluogi'r Cynulliad i gael mwy o bwerau i wneud ei ddeddfau ei hun, a hynny fesul achos. Cyfeirir at allu'r Cynulliad i wneud y deddfau hyn fel ei "gymhwysedd deddfwriaethol”. Yn Neddf Llywodraeth Cymru, diffinnir cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad drwy gyfeirio at “feysydd” a “materion”:Maes pwnc eang, e.e. priffyrdd a thrafnidiaeth a thai yw "maes";
Maes polisi diffiniedig penodol o fewn maes yw "mater".
Yn y meysydd y mae ganddo gymhwysedd deddfwriaethol, gall y Cynulliad wneud ei ddeddfau ei hun, a gelwir y rhain yn “Fesurau”. Bydd Mesur yn cael effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Rhestrir pob un o’r meysydd a’r materion yn Atodlen 5 y ddeddf.
O fewn pob maes, rhestrir materion penodol sy'n rhoi’r pwer i'r Cynulliad wneud Mesurau o fewn y maes polisi a ddiffinnir gan y mater.
Gellir diwygio Atodlen 5 i ychwanegu mwy o faterion yn y meysydd a thrwy hynny estyn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a darparu rhagor o feysydd polisi ar gyfer gwneud Mesurau. Gellir diwygio Atodlen 5 naill ai drwy:
Ddeddf Seneddol newydd; neu
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) (yn destun cymeradwyaeth y Cynulliad a Senedd y DU).
