Y Trydydd Cynulliad (2007 - 2011)
Gorchmynion Gweithdrefn Arbennig
Mae’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig, fel y nodir yn Rheol Sefydlog 25, yn gymwys i sut y mae Gweinidogion Cymru (neu’r Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol mewn achosion eithriadol) yn arfer unrhyw bwer i wneud neu i gadarnhau is-ddeddfwriaeth (y cyfeirir ati fel Gorchymyn Gweithdrefn Arbennig) y mae’n rhaid iddi gydymffurfio â’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig.
Darn o ddeddfwriaeth ddirprwyedig y mae Gweithdrefnau Cynulliad Arbennig yn gymwys iddi yw Gorchymyn Gweithdrefn Arbennig. Mae’r pwer i wneud Gorchmynion Gweithdrefn Arbennig ynghylch pwerau datganoledig wedi’i ddirprwyo gan y Cynulliad neu gan Senedd y DU i Weinidogion Cymru neu i gorff fel awdurdod lleol. Os bydd y pwer i wneud Gorchymyn Gweithdrefn Arbennig wedi’i ddirprwyo i awdurdod lleol neu i gorff tebyg, bydd yn rhaid i’r Gweinidogion roi cadarnhad cyn y daw’n ddeddf. Mae Gorchmynion Gweithdrefn Arbennig fel arfer yn ymwneud yn benodol â darn arbennig o dir.
Deisebu yn erbyn Gorchmynion Gweithdrefn Arbennig
Mae Gorchmynion Gweithdrefn Arbennig yn ymwneud yn benodol â darn arbennig o dir, ac er mwyn iddynt ddod yn ddeddf, rhaid i’r cyhoedd y gallai’r penderfyniad effeithio arnynt gael cyfle i gyflwyno deiseb i’r Llywydd yn eu gwrthwynebu o dan y Weithdrefn Cynulliad Arbennig.
Rhaid i’r Llywydd roi gwybod i’r Cynulliad am yr holl ddeisebau a ddaw i law. Os bydd y Llywydd yn dod i’r casgliad bod deiseb neu ddeisebau yn datgelu sail wreiddiol dros wrthwynebu, bydd y Llywydd yn hysbysu’r Cynulliad a sefydlir Pwyllgor i ystyried y ddeiseb neu’r deisebau.
Mae'r Llywydd wedi rhoi canllawiau i Aelodau'r Cynulliad i Aelodau'r Cynulliad ar y modd priodol i gynnal trafodion ynghlych Pwyllgorau Gweithdrefn Cynulliad Arbennig.
