Cyfarfodydd Llawn Cynnar yn dilyn un o Etholiadau'r Cynulliad
Bydd yr Aelod a oedd yn dal swydd y Llywydd yn syth cyn etholiad y Cynulliad (y Llywydd blaenorol) yn pennu dyddiad ac amser y Cyfarfod Llawn cyntaf, gan ymgynghori â’r grwpiau gwleidyddol. Os yw’r Llywydd blaenorol yn amharod i wneud hynny, neu os nad yw’n gallu gwneud hynny, Clerc y Cynulliad sydd i bennu’r dyddiad a’r amser.
Y Llywydd sydd newydd ei ethol fydd wedyn yn pennu dyddiad ac amser pob Cyfarfod Llawn wedi hynny nes i’r
Pwyllgor Busnes gael ei sefydlu (ac nes i’r datganiad a chyhoeddiad busnes gael ei roi yn y Cyfarfod Llawn gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth).
Bydd Clerc y Cynulliad yn hysbysu’r holl Aelodau o ddyddiad ac amser pob cyfarfod o leiaf 24 awr o flaen llaw. Caiff
agenda pob Cyfarfod Llawn pob hefyd ei gyhoeddi o leiaf 24 awr o flaen llaw.
Rhaid cynnal y Cyfarfod Llawn cyntaf o fewn saith niwrnod gwaith i’r etholiad, a hynny er mwyn ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd. Bydd y trafodion yn dechrau drwy ethol Llywydd, ac wedyn caiff Dirprwy Lywydd ei ethol.
Mae gofyn i’r Cynulliad enwebu Prif Weinidog o fewn 28 niwrnod ar ôl etholiad Cynulliad.
Busnes cynnar dilynol
Rhaid i’r Cynulliad gytuno ar sawl eitem bwysig o fusnes yn fuan ar ôl yr etholiad, gan gynnwys:
- penodi Aelodau i'r Pwyllgor Busnes;
- penodi Comisiynwyr y Cynulliad;
- argymhelliad y Prif Weinidog i'w Mawrhydi ynghylch y person sydd i'w benodi'n Gwnsler Cyffredinol;
- enwau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau; ac
- aelodau a chadeirydd pob pwyllgor.