Mathau o Fusnes yn y Cyfarfod Llawn
Mae rhestr fanwl o'r holl eitemau busnes i'w gweld yn Agenda'r Cyfarfod Llawn sy'n cael ei bratoi ar gyfer pob cyfarfod. Dyma rai o'r eitemau a fydd ar yr Agenda:
- cwestiynau i Weinidogion Cymru a Chomisiynwyr y Cynulliad;
- datganiadau neu ddadleuon arbynciau a gynigir gan y Llywodraeth, y pleidiau gwleidyddol neu Aelodau unigol;
- ystyried darnau o gyfraith sy'n effeithio ar Gymru.
Gall Gweinidogion neu Gomisiynwyr y Cynulliad ateb cwestiynau a ofynnir iddynt ar lafar neu'n ysgrifenedig. Trefnir rota i Weinidogion pob un o adrannau'r llywodraeth ymddangos yn y Cyfarfod Llawn i ateb cwestiynau llafar. Bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob dydd Mawrth.
Bydd Gweinidogion y Llywodraeth yn gwneud datganiadau llafar ac ysgrifenedig am faterion sydd o ddiddordeb ac o bwys i'r Cynulliad ac i'r bobl y mae'n eu cynrychioli. Caiff y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd, Comisiynwyr y Cynulliad neu ACau eraill sydd â chyfrifoldebau penodol (e.e. ACau sy'n cynnig deddfwriaeth) wneud datganiadau llafar hefyd.
Mae'n bosibl trafod unrhyw beth sydd o ddiddordeb i Gymru a'i phobl yn y Cyfarfod Llawn. Caiff Gweinidogion y Llywodraeth, Comisiynwyr y Cynulliad, y gwrthbleidiau neu Aelodau unigol gynnig dadleuon.
Fel rheol, bydd unrhyw ddeddfwriaeth sy'n mynd ar ei hynt drwy'r Cynulliad yn cael ei hystyried o leiaf unwaith yn y Cyfarfod Llawn.
Yn aml, cynhelir pleidlais i weld a yw mwyafrif yr Aelodau'n cefnogi ynteu'n gwrthod unrhyw gynigion a drafodir yn y Cyfarfod Llawn. Fel rheol, pleidlais electronig fydd hon.