Deddfwriaeth
|

Trosolwg

|

Yn unol â Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gall y Cynulliad basio deddfwriaeth a elwir yn ‘Fesurau Cynulliad’ ar faterion sydd o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol, hynny yw, materion y mae ganddo hawl i ddeddfu arnynt.

Mae’r Swyddfa Ddeddfwriaeth wedi cynhyrchu fersiwn wedi’i chydgrynhoi o Atodlen 5 , yn nodi hyd a lled diweddaraf cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.  

Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau wedi cynhyrchu cyfres o "Nodiadau Tracio Pwerau'r Cynulliad", sy’n ddogfennau manylach a fwriadwyd i ddarparu dull rhwydd o dracio ychwanegiadau (a gymeradwywyd ac ychwanegiadau arfaethedig) i Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Caiff is-ddeddfwriaeth ei gwneud gan Weinidogion Cymru o dan y weithdrefn penderfyniad negyddol, o dan y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol neu heb ddilyn unrhyw weithdrefn o gwbl. Pennir y weithdrefn briodol yn y Ddeddf neu’r Mesur perthnasol.

Newyddion Diweddaraf

Ymgynghoriad cyhoeddus: Y Pwyllgor ar y Gorchymyn ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed

Mae’r alwad am dystiolaeth bellach wedi cau a gellir cael mynediad i’r ymatebion a dderbyniwyd yn: rhestr o ymatebion i'r ymgynghoriad.

Egluro'r broses ddeddfu                                  

Yma ceir braslun o broses ddeddfu'r Cynulliad.
Mwy>>

Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol

Yma, ceir manylion yr holl Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a osodwyd gerbron y Cynulliad.
Mwy>>

Mesurau Arfaethedig                                         

Yma, ceir manylion yr holl Fesurau arfaethedig a gyflwynwyd i’r Cynulliad.
Mwy>>

Is-Ddeddfwriaeth

Yma, ceir manylion pob darn o is-ddeddfwriaeth.
Mwy>>

Balot ar gyfer Mesurau a Gorchmynion Arfaethedig Aelod

Yma, ceir manylion pob balot a gynhaliwyd i bennu pa Aelod a gaiff gyflwyno Mesurau a Gorchmynion arfaethedig Aelod, gan gynnwys y wybodaeth a gyflwynwyd cyn y balot.
Mwy>>

Chwilio am ddeddfwriaeth                                       

I ddod o hyd i wybodaeth sy'n ymwneud â deddfwriaeth, cliciwch yma i Chwilio am ddeddfwriaeth.