Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a gymeradwywyd

Trosolwg

Gall Llywodraeth y Cynulliad, pwyllgorau'r Cynulliad neu Aelod Cynulliad gynnig Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Ar ôl i'r Cynulliad ei gymeradwyo, caiff y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w osod gerbron y ddau Dy yn San Steffan. Os caiff ei gymeradwyo yno, caiff y Gorchymyn ei wneud gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

Yn y Cynulliad, caiff Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei gymeradwyo mewn dau gam:

  1. Mae Pwyllgor Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ad-hoc yn craffu ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig cyn y broses ddeddfu;
  2. Mae'r Cyfarfod Llawn yn cymeradwyo Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol drafft.

Gorchmynion: