Gall Llywodraeth y Cynulliad, Pwyllgorau’r Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad neu Aelod Cynulliad gynnig Mesurau.
Ceir pedwar cyfnod cyn pasio Mesur Cynulliad, sef:
- Cyfnod 1 – ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a chytuno arnynt yn y Cyfarfod Llawn;
- Cyfnod 2 – cynnull pwyllgor i ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl;
- Cyfnod 3 – ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a ddetholwyd yn fanwl yn y Cyfarfod Llawn;
- Cyfnod 4 – pasio testun terfynol y Mesur.