Gall Llywodraeth y Cynulliad, Pwyllgorau’r Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad neu Aelod Cynulliad gynnig Mesurau.
Mae proses pedwar cam i basio Mesur Cynulliad, sy’n cynnwys:
- Cam 1 – ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a chytuno arnynt yn y Cyfarfod Llawn;
- Cam 2 – pwyllgor i ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl;
- Cam 3 – ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a ddetholwyd yn fanwl yn y Cyfarfod Llawn;
- Cam 4 – pasio testun terfynol y Mesur.