Y Siambr
Y Siambr yw'r siambr ddadlau gron fawr sydd yng nghanol adeilad y
Senedd lle bydd pob Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal.
Ymweld â'r Siambr a mynd i’r Cyfarfod Llawn
Cynhelir pob Cyfarfod Llawn yn gyhoeddus. Mae oriel arbennig ar gael i'r cyhoedd eistedd a gwylio'r trafodion. Mae'r oriel uwchben y Siambr ac mae 120 o seddi yno.
I gael gwybod sut i drefnu i wylio’r Cyfarfod Llawn, ewch yma
Y Siambr 'electronig'
Siambr ddadlau electronig yw'r Siambr. Mae gan yr holl Aelodau eu terfynell cyfrifiadur eu hunain er mwyn iddynt allu ymchwilio i bynciau i'w trafod ac i weithio pan na fyddant yn cael eu galw i siarad. Mae clustffonau ar gael iddynt hefyd i chwyddo'r sain yn y Siambr neu i ddefnyddio'r gwasanaethau cyfieithu ar y pryd.
Mae clociau digidol wedi'u gosod yma a thraw yn y Siambr i amseru'r siaradwyr - os bydd y clociau hyn yn troi'n goch, mae'n golygu bod y siaradwr wedi siarad yn hwy na'r amser a neilltuwyd. Gall yr Aelodau hefyd ddefnyddio'r sgriniau sydd yn y Siambr i ddangos ffilmiau neu gyflwyniadau electronig sy'n berthnasol i eitem fusnes benodol.
Trefniadau eistedd
Bydd cadeirydd y Cyfarfodydd Llawn (sef y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd fel rheol) yn eistedd yn nhu blaen y Siambr gan wynebu'r Aelodau i gyd. Bydd Gweinidogion y Llywodraeth (y Cabinet) yn eistedd yn y rhes flaen sy'n wynebu'r Cadeirydd. Bydd y Prif Weinidog yn eistedd yng nghanol rhes y Cabinet. Bydd yr Aelodau eraill i gyd yn eistedd y tu ôl iddynt ac o'u cwmpas, yng ngrŵp eu plaid eu hunain.
Swyddogion y Siambr
Bydd swyddogion y Cynulliad yn eistedd yn y Siambr hefyd. Bydd clercod yn eistedd ar y chwith ac ar y dde i'r cadeirydd er mwyn cynnig cyngor ynglŷn â gweithdrefnau a chadw rhestr o'r rheini sydd wedi gofyn i gael siarad am eitemau busnes. Maent hefyd yn gyfrifol am amseru siaradwyr unigol, am weithio'r system bleidleisio electronig ac am gofnodi canlyniad unrhyw bleidlais.
Bydd y rheini sy'n paratoi
Cofnod y Trafodion – cofnod gair am air ysgrifenedig swyddogol y Cyfarfod Llawn - yn eistedd y tu ôl i'r cadeirydd ac yn cadw nodiadau drwy'r cyfarfod. Y tu ôl i'r sgriniau gwydr yn y Siambr, bydd y cyfieithwyr ar y pryd a'r peirianwyr yn eistedd.
Bydd tywyswyr yn bresennol yn y Siambr hefyd i drosglwyddo negeseuon yn ôl ac ymlaen i Aelodau'r Cynulliad.
Dilyn trafodion y Siambr
Bydd trafodion y Siambr yn cael eu darlledu'n fyw ar
senedd.tv. Mae archif Cyfarfodydd Llawn blaenorol ar gael ar senedd.tv hefyd os na allwch chi ddilyn y trafodion yn fyw.
Yn ogystal â gwylio senedd.tv, gallwch hefyd ddilyn trafodion y Siambr drwy edrych ar ddogfen a elwir yn
Bleidleisiau a Thrafodion. Bydd hon yn cael ei rhoi ar y rhyngrwyd cyn gynted ag sy'n bosib ar ôl y Cyfarfod Llawn ac ynddi, rhestrir yr holl eitemau busnes a drafodwyd yn y cyfarfod, beth oedd penderfyniadau'r Cynulliad, a chanlyniadau unrhyw bleidleisiau.
Bydd
crynodeb manwl o'r pleidleisiau yn cael ei gyhoeddi hefyd cyn gynted ag sy'n bosib ar ôl pob Cyfarfod Llawn. Bydd hwn yn rhestru pob eitem y gofynnwyd i'r Cynulliad bleidleisio arni ac yn nodi enw pob Aelod a sut y pleidleisiodd yr Aelod hwnnw.