Ynglŷn â’r Gwasanaeth

Ynglŷn â’r Gwasanaeth

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd i Aelodau'r Cynulliad unigol, eu staff a Phwyllgorau'r Cynulliad.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cynnwys:

  • pedwar tîm ymchwil sy’n darparu cyngor arbenigol ynghylch meysydd polisi penodol

  • tîm ymchwil sy’n rhoi gwybodaeth ariannol ac ystadegol arbenigol  

  • tîm ymchwil sy’n rhoi cyngor ynglyn â’r Cynulliad, y cyfansoddiad, deddfwriaeth y DU a’r UE, etholiadau a refferenda

  • llyfrgell sy’n cynnig amrywiaeth lawn o wasanaethau cyfeirio a gwasanaethau gwybodaeth

Rydym hefyd yn gweithio gyda Swyddfa’r Cynulliad ym Mrwsel sy’n cynnig cymorth, gwybodaeth a chymorth am faterion yn ymwneud â’r UE gan gynnwys cymorth gyda rhaglenni ymweliadau.


Gellir gweld amrywiaeth o friffiau a chyfarwyddydiadau gan y Gwasanaeth Ymchwil ar y wefan hon. Mae'r rhain wedi eu llunio ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a'u staff, ond efallai byddant o ddiddordeb i gynulleidfa allanol hefyd.

Er mwyn darparu gwasanaeth ymchwil effeithiol, mae'n bwysig ein bod yn cael gafael ar wybodaeth gyfredol oddi wrth sefydliadau allanol ac hefyd, unigolion gyda gwybodaeth ac arbenigedd mewn ardaloedd pwnc perthnasol. Os hoffech wybod mwy am ein gwaith, neu os oes gennych unrhyw gyhoeddiadau o ddiddordeb i'n hymchwilwyr, defnyddiwch y manylion isod i gysylltu â ni.


Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Gwasanaeth Ymchwil
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

e-bost: Research.Service@wales.gov.uk

Twitter: YmchwilCCC

Am rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth gweler:

Y Gwasanaeth Ymchwil: Canllaw

Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pennaeth y Gwasanaeth                                        

Kathryn Potter
029 2089 8038

Pennaeth y Gwasanaeth dros dro

Graham Winter
029 2089 8166

Tîm y Cynulliad a’r Cyfansoddiad

Yn darparu cyngor arbenigol ar y Cynulliad; datganoli; cyfansoddiad y DU; deddfwriaeth Cymru, y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd (mewn cydweithrediad â Gregg Jones o swyddfa’r UE); llywodraethiant; is-ddeddfwriaeth; etholiadau; a refferenda.


Anne Thomas
Arweinydd y Tîm Ymchwil

029 2089 8966

Tîm yr Economi, Cymunedau a Llywodraeth Leol

Cyngor arbenigol ar yr economiy; Yr Undeb Ewropeaidd; cyfiawnder cymdeithasol; lles; cyfle cyfartal; y sector wirfoddol; diogelwch cymunedol; diwylliant; chwaraeon a hamdden; amgueddfeydd a llyfrgelloedd; Y Gymraeg; llywodraeth leol, gwasanaethau cyhoeddus, adfwyio a thai.


Ben.Stokes
Arweinydd y Tîm Ymchwil
029 2089 8208

Y Tïm Addysg a dysgu gydol oes

Yn darparu cyngor arbenigol ar plant a phobl ifanc, addysg a dysgu gydol oes.


Anne Thomas
Arweinydd y Tîm Ymchwil

029 2089 8966

Tîm yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth

Darparu cyngor arbenigol ar drafnidiaeth, ynni, yr amgylchedd, cynllunio, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, datblygu gwledig, datblygu cynaliadwy, coedwigaeth a dyfroedd morol a mewndirol.


Graham Winter
Arweinydd y Tîm Ymchwil
029 2089 8166

Y Tîm Cyllid ac Ystadegau

Darparu cyngor arbenigol ar gyllidebu a chyllidebau’r Cynulliad, cyllid llywodraeth leol ac ystadegau cyffredinol yn cynnwys dulliau a ffynonellau.


Martin Jennings
Arweinydd y Tîm Ymchwil

029 2089 8057

Y Tîm Polisi Iechyd a Pholisi Cymdeithasol

Darparu cyngor arbenigol ar iechyd, cam-drin cyffuriau ac alcohol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol; plant a phobl ifanc; pobl hyn; diogelwch cymdeithasol


Sarah Hatherley
Arweinydd y Tîm Ymchwil

029 2089 8447

Y Llyfrgell

Darparu gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio, yn cynnwys cyhoeddiadau swyddogol, papurau newydd, cyfnodolion, e-adnoddau a gwasnaethau monitro.


Stephanie.Wilson
Pennaeth y Llyfrgell
029 2089 8629

Swyddfa’r UE

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn gweithio’n agos â Swyddfa UE y Cynulliad sydd yn darparu cyngor arbenigol a gwybodaeth am faterion yn ymwneud â’r UE; rhoi cymorth i gynrychiolwyr y Cynulliad Cenedlaethol ar Bwyllgor y Rhanbarthau (a Chyngor Ewrop); hyrwyddo gwaith a buddion y Cynulliad ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn yr UE a hwyluso rhaglenni ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a dirprwyaethau staff i Frwsel.


Gregg Jones
Pennaeth Swyddfa'r UE Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Swyddfa UE Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ty Cymru (6ed Llawr)
Rond Point Schuman, 11
B-1040 Brussels
Belgium

Ffôn: +32 (0)2 226 6692
Ffacs: + 32 (0)2 226 6694

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad
  3. Ymchwil
  4. Ynglyn â’r gwasanaeth

Partneriaid a Help