Hysbysiad Busnes

Busnes a Gyflwynwyd

Ar y dudalen hon, ceir lincs i'r busnes diweddaraf a gyflwynwyd neu a osodwyd gerbron y Cynulliad.

Deddfwriaeth

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu y gall y Cynulliad wneud cyfreithiau, a elwir yn Ddeddfau.

Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth yn y Pedwerydd Cynulliad ar gael yn ‘Deddfau’r Pedwerydd Cynulliad’.(Bydd y linc hon ar gael yn fuan)

Gweler hefyd:

Tudalen we Deddfwriaeth

Brig

Cynigion a gwelliannau

Cyflwynir cynigion ar wahanol faterion i'r Cynulliad benderfynu arnynt. Gall yr Aelodau gynnig gwelliannau i gynigion yn unol â'r Rheolau Sefydlog.

Brig

Cwestiynau

Cwestiynau llafar

Cyflwynir cwestiynau llafar i'r Prif Weinidog eu hateb yn y Cyfarfod Llawn bob wythnos a chyflwynir cwestiynau i'w hateb gan Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad bob pedair wythnos.

Cwestiynau ysgrifenedig

Cyflwynir cwestiynau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad ar faterion sy’n ymwneud a’u dyletswyddau.

Brig

Mae Rheol Sefydlog 29 yn darparu ar gyfer gosod dogfennau gerbron y Cynulliad. Gosod yw'r weithdrefn ffurfiol ar gyfer cyflwyno dogfennau i'r Cynulliad.

Brig

Datganiadau barn

Datganiadau barn

Caniateir i Ddatganiadau Barn gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod Cynulliad heblaw Aelod o'r Llywodraeth, ar faterion sy'n effeithio ar Gymru. Caniateir i Ddatganiadau Barn gael eu hategu, eu gwrthwynebu neu fod yn destun sylwadau.

Brig

Yn yr adran hon

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad
  3. Ymchwil
  4. Gwasanaethau monitro
  5. Busnes a gyflwynwyd

Partneriaid a Help