Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol

Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu ar fater sydd eisioes wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol iddi gael cydsyniad y Cynulliad cyn y gall basio'r deddfwriaeth dan sylw. Rhoddir cydsyniad o'r fath gan y Cynulliad drwy gynigion cydsyniad deddfwriaethol (legislative consent motions).

Caiff manylion am sut y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â chynigion cydsyniad deddfwriaethol eu hamlinellu yn rheol sefydlog 29. Ceir rhagor o wybodaeth gefndir am gynigion cydsyniad deddfwriaethol a'r prosesau craffu y mae'n rhaid iddynt fynd drwyddynt yng nghyd-destun Cymru yn Hysbysiad Hwylus y Gwasanaeth Ymchwil ar Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol:

Ystyriwyd Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Mesurau Seneddol isod yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Rhestrir y cynigion fesul blwyddyn. Cliciwch ar y lincs am ragor o wybodaeth.

Mae'n ofynnol i'r Cynulliad roi cysyniad mewn enghreifftiau ble mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn medru defnyddio pwerau gwneud gorchmynion mewn materion sydd wedi eu datganoli o ganlyniad i ddeddfwriaeth cynradd sydd yn bodoli eisioes. Rhoddir cydsyniad o'r fath gan y Cynulliad drwy Cynigion Cydsyniad. Maent yn wahanol i Gynigion Cydsyniad 'Deddfwriaethol' gan eu bod yn ymwneud â gorchmynion sydd yn deillio o ddeddfau'r DU sydd eisioes mewn grym yn hytrach na darpariaethau mewn Biliau sydd eto i dderbyn cydsyniad gan Senedd y DU.


2012
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mesur Seneddol                                                                         Dyddiad gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad
Y Bil Diwygio Lles 3 Ionawr 2012
Y Bil Gwasanaethau Ariannol 3 Chwefror 2012
2011
Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mesur Seneddol                                                                  Dyddiad gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad

Mesur Ynni Seneddol y DU [HL]

14 Ionawr 2011, 3 Mehefin 2011

Mesur Seneddol y DU ynghylch Lleoliaeth

25 Ionawr 2011, 23 Mai 2011, 6 Gorffennaf 2011, 20 Medi 2011

Mesur Addysg Seneddol y DU

7 Chwefror 2011, 23 Mai 2011, 13 Hydref 2011

Mesur Seneddol Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol)

27 Hydref 2011

Mesur Seneddol ynghylch Diogelu Rhyddidau

10 Tachwedd 2011

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad
  3. Ymchwil
  4. Gwasanaethau monitro
  5. Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol

Partneriaid a Help