ANNOG BUSNESAU BACH A CHANOLIG
Rydym yn diffinio cwmni bach fel un sy’n cyflogi hyd at 200 o weithwyr a chwmni canolog fel un sy’n cyflogi rhwng 200 a 500o weithwyr.
Rydym am wneud busnes â busnesau bach a chanolig ac fe wnawn:
Ddod yn fwy cyfarwydd â busnesau bach a chanolig yng Nghymru a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt;
waredu’r rhwystrau i wneud busnes â chwmniau bach a chanolig;
gydnabod bod busnesau bach a chanolig yn cynnig gwerth da am arian;
esbonio ein prosesau tendro i helpu busnesau bach a chanolig i gynnig am ein busnes;
ei gwneud yn haws i fusnesau bach a chanolig siarad â ni;
sicrhau nad yw ein prosesau yn gwahaniaethu yn erbyn busnesau bach a chanolig ;
sicrhau bod gan fusnesau bach a chanolig bob cyfle i gystadlu am ein contractau;
hybysebu contractau dros £25,000, ar sell2wales.co.uk;
annog ein cyflenwyr i ddarparu cyfleoedd is-gontractio i fusnesau bach a chanolig;
groesawu ceisiadau oddi wrth fusnesau newydd;
groesawu cynigion ar y cyd neu gynnig consortia oddi wrth fusnesau bach;
gydymffurfio â deddfwriaeth caffael yr UE a’r DU a defnyddio’r un rheolau i bawb sy’n tendro mewn modd teg a thryloyw.
Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu cynaliadwy a byddwn yn:
sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn ymwybodol o feini prawf cynaliadwyedd a sut y byddant yn effeithio ar asesu tendrau;
annog busnesau bach a chanolig i groesawu egwyddorion caffael cynaliadwy.
Rydym yn moderneiddio ein prosesau caffael, i sicrhau eu bod yn dryloyw ac yn deg i fusnesau bach a chanolig. I gyflawni hyn, byddwn yn:
sicrhau bod pobl fedrus sydd wedi cymhwyso’n broffesiynol yn rheoli’r prosesau caffael
esbonio ein prosesau tendro i fusnesau bach a chanolig
yn cadw ein proses dendro mor syml ag sy’n bosibl er mwyn lleihau costau
rhybuddio busnesau bach a chanolig am newidiadau yn ein prosesau a rhoi amser iddynt addasu i’r newidiadau.
Cynyddu’r defnydd o e-gaffael, gan gynnwys e-arwerthiant, cardiau caffael ac anfonebu electronig, er mwyn gwella effeithlonrwydd.
ystyried y dull gweithredu gorau i sicrhau gwerth am arian ac i reoli risg, ar gyfer pob caffael.
Rhannu contractau mawr i adrannau llai yn ôl y gofyn, er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd tendro i fusnesau bach a chanolig.
Trafod y caffael â busnesau bach a chanolig yn ôl y gofyn i’w helpu i ddeall ein gofynion ac i asesu eu haddasrwydd eu hunain.
Rhoi gwybod i fusnesau bach a chanolig sydd â diddordeb am y meini prawf a’r dulliau asesu a ddefnyddiwn i werthuso mynegiant diddordeb a thendrau.
Nodi gofynion gosod amodau ariannol ar sail risg a aseswyd, ac fesul tendr.
Yn gofyn am gyfrifon archwiliedig am ddim mwy na dwy flynedd, a byddwn yn derbyn gwybodaeth amgen gan fusnesau mwy newydd.
Ystyried atebion amgen a gaiff eu cynnig gan fusnesau bach a chanolig.
Rhoi adroddiad os gofynnir hynny i helpu busnesau bach a chanolig i wella eu perfformiad tendro yn y dyfodol.
talu o fewn 30 diwrnod o dderbyn anfoneb briodol.
ei gwneud yn ofynnol i’n prif gontractwyr dalu busnesau bach a chanolig o fewn 30 diwrnod i dderbyn anfoneb briodol.
I sicrhau bod ein prosesau caffael yn gwella’n barhaus, byddwn yn:
ystyried canllawiau ar arferion da o ran caffael;
croesawu atborth gan fusnesau bach a chanolig am ein prosesau a’n gweithdrefnau;
meddu ar weithdrefn gwynion.
Gwella ein gweithdrefnau a’n prosesau yn barhaus.
Braslun yw hyn o’r arferion yr ydym am eu mabwysiadu.
Er mwyn sicrhau hyblygrwydd ac i annog cynifer ag y bo modd o gyrff y sector cyhoeddus a busnesau bach a chanolig i gymryd rhan, mae’n angenrheidiol ein bod yn egluro’n glir nad yw’r ddogfen hon yn creu, ac nis bwriadwyd iddi greu, unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, cyfrifoldeb na hawl gweithredu o gwbl, p’un ai mewn cyfraith gyhoeddus neu gyfraith breifat, mewn perthynas ag unrhyw gorff y sector cyhoeddus neu fusnes bach a chanolig sy’n cymryd rhan yn y Siarter hwn.
Ymrwymiad busnesau bach a chanolig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Er mwyn ein helpu ni i’ch helpu chi i’n gwasanaethu, byddwch chi’n barod i:
Gofrestru ar www.sell2wales.co.uk.
Ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen arnom i ddeall eich busnes.
Gymryd mantais o gyfleoedd i gyfafod â ni.
Sicrhau eich bod yn deall ein gofynion, ac os nad ydych yn gwbl sicr ohonynt, eich bod yn gofyn.
Bod yn realistig wrth asesu eich gallu i ddarparu ein contractau.
Croesawu e-gaffael ac o leiaf yn dod yn fedrus wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd
Sicrhau bod eich holl weithgareddau’n cael eu cynnal mewn modd gonest a chyfrifol.
Wella cyfraniad eich busnes i ddatblygu cynaliadwy yn gyson.
Sicrhau bod polisïau, prosesau a thystysgrifau yn bod i ddangos eich bod wedi ymrwymo i ansawdd, iechyd a diogelwch, cyfle cyfartal a’r amgylchedd.
Datblygu a gweithio gyda’ch cadwyn o gyflenwyr i gynnwys busnesau bach a chanolig eraill.
Trin eich cyflenwyr yn deg, a thalu o fewn 30 diwrnod i gael anfoneb briodol.
Bydd gennych enw da am ddarparu gwasanaeth cystadleuol o ansawdd dai ni a brwdfrydedd i wneud hynny, drwy:
Ddiweddaru eich sgiliau personél a’ch gallu busnes yn barhaus, gan ofyn am gymorth gan Asiantaethau Cymorth Busnes, yn ôl y gofyn.
Ystyried cydweithio â chyflenwyr eraill os yw hyn yn sicrhau bod eich gwasanaeth yn fwy cystadleuol neu’n gostwng risg.
Cysylltwch â ni
Mae modd cysylltu â Swyddfa Gaffael y Cynulliad yn
029 20 89 8607
