Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Fforwm Trafod: Ymchwiliad i gael caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i'r posibilrwydd o newid y ffordd y caiff organau’r corff eu rhoi yng Nghymru.

Gall rhoi organau fod yn bwnc sensitif ac mae’r pwyllgor yn awyddus i glywed barn cymaint o bobl o Gymru â phosibl.

Ar hyn o bryd, cymerir organau gan berson sydd wedi marw dim ond os yw wedi’i gofrestru fel rhoddwr ar Restr Rhoddwyr Organau y GIG, os yw'n cario cerdyn neu os yw ei anwyliaid yn cydsynio â hyn. Mewn rhai gwledydd, mae system wahanol yn bodoli. Mae'n bosibl cymryd organau yn awtomatig oni bai bod yr ymadawedig wedi mynegi gwrthwynebiad i hyn ymlaen llaw. Yr enw a roddir ar y system hon yw caniatâd tybiedig. Mae rhai gwledydd sy'n defnyddio'r system hon yn caniatáu i anwyliaid yr ymadawedig wrthwynebu'r penderfyniad hwn, ond nid yw hyn yn wir am bob gwlad.

Yn sgil prinder rhoddwyr mae’r drefn caniatâd tybiedig, sy'n ffordd o gael organau i’w trawsblannu, wedi dod yn destun trafod cyhoeddus yn y DU. Mae pryder cynyddol y bydd y galw am drawsblaniadau’n cynyddu fwy fyth yn y dyfodol yn sgil tueddiadau ym maes cymdeithas a iechyd.

Mae’r system bresennol o gofrestru i ddod yn rhoddwr yn golygu:

  • Bod yn rhaid i bobl hysbysu’u hanwyliaid ynghylch eu dymuniadau
  • Gall anwyliaid wrthwynebu hyd yn oed pan oedd yr ymadawedig wedi mynegi dymuniad i roi organau
  • Efallai y bydd disgwyl i anwyliaid wneud penderfyniad ar adegau o dristwch llethol.

Byddai system o ganiatâd tybiedig yn golygu:

  • Y byddai'n bosibl cymryd organau yn awtomatig oni bai bod yr ymadawedig wedi mynegi gwrthwynebiad i hyn ymlaen llaw.  
  • Y wladwriaeth fyddai’n penderfynu a fyddai'n bosibl i anwyliaid anwybyddu dymuniadau’r unigolyn ai peidio.   
  • Efallai y bydd dal disgwyl i anwyliaid wneud penderfyniad anodd neu wynebu digwyddiad anodd ar adeg o dristwch llethol.
Jonathan Morgan AM / AC

Neges gan Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y pwyllgor

Mae'r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol eisiau clywed eich barn ynghylch rhoi organau.

Nid oes amheuaeth bod trawsblaniadau'n gallu arbed bywydau a gwella ansawdd bywyd y rhai sy'n elwa ohonynt. Yn ogystal, mae prinder dybryd o roddwyr. Yng Nghymru:

-  Mae tua 400 o bobl yn aros am drawsblaniad ar hyn o bryd.

-  Mae'r bwlch rhwng nifer yr organnau a gynigir ar gyfer trawsblaniadau a nifer y bobl sydd angen trawsblaniad yn cynyddu.

Yng Nghymru a gweddill y DU, mae'n rhaid i ni ddewis rhoi organau drwy gofrestru neu gario cerdyn. Un ffordd o gau'r bwlch fyddai mabwysiadu system caniatâd tybiedig, ble mae'n rhaid dewis peidio â rhoi organau. Mae'r system hon ar waith mewn rhai gwledydd eraill fel Sbaen.

Fodd bynnag, mae'n bosibl bod yna bethau eraill y gallwn eu gwneud, fel codi ymwybyddiaeth pobl a gwella rhwydweithiau. Hefyd mae'n rhaid ystyried safbwynt y rheini sydd â phryderon moesol, moesegol neu grefyddol ynghylch y mater neu’r rheini sy’n teimlo bod hwn yn fater i unigolion a’u teuluoedd ac na ddylai’r wladwriaeth ymyrryd yn y maes sensitif hwn.

Beth yw eich barn chi?

Nodwch eich sylwadau o dan y pynciau isod.


CofrestruCymorth

:

:

Wedi anghofio eich cyfrinair?

Nodwch: rhaid i chi gofrestru eich manylion gyda ni er mwyn cael y manylion logio mewn.
Bydd yr holl sylwadau sy’n cael eu hanfon at y fforymau trafod yn cael eu cymedroli ymlaen llaw gan staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n golygu na fydd y sylwadau’n ymddangos ar unwaith ar y safle. Cynhelir y gwaith cymedroli rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau'r Banc).


Trefni post gan Pwnc

Pwnc Wedi Creu Atebion Ateb Diwethaf Pwnc yn Cau
Ydych chi’n credu y dylid defnyddio organau rhywun ar ôl ei farwolaeth ar gyfer trawsblaniad fel mater o drefn (yn awtomatig)? 8 wythnosau yn ôl 16 2 wythnosau yn ôl
Wedi postio gan Donna (ID defnyddiwr:184) (mewn Saesneg)
Ar agor
Ydych chi’n credu y dylai’r dewis ynghylch rhoi organau fod yn nwylo’r unigolyn neu’i anwyliaid? 8 wythnosau yn ôl 8 4 wythnosau yn ôl
Wedi postio gan Hugo (ID defnyddiwr:156) (mewn Saesneg)
Ar agor
Ydych chi neu eich teulu wedi cael unrhyw brofiad uniongyrchol o lawfeddygaeth trawsblanu neu'r angen am drawsblaniad? 8 wythnosau yn ôl 4 6 wythnosau yn ôl
Wedi postio gan Antony (ID defnyddiwr:119) (mewn Saesneg)
Ar agor
Heblaw am ganiatâd tybiedig, beth y gellir ei wneud i gynyddu'r nifer o drawsblaniadau? 8 wythnosau yn ôl 5 4 wythnosau yn ôl
Wedi postio gan Cyclingant (ID defnyddiwr:148) (mewn Saesneg)
Ar agor
Oes ganddoch chi unrhyw farn foesol, foesegol neu grefyddol am ganiatâd tybiedig? 8 wythnosau yn ôl 11 3 wythnosau yn ôl
Wedi postio gan A Trimby (ID defnyddiwr:171) (mewn Saesneg)
Ar agor