Y Pwyllgor Deisebau | Ysgol Hen Felin - Adroddiad ar eich deiseb (Fersiwn Testun)
Cafodd yr Adroddiad Ysgol Hen Felin ei gynhyrchu er mwyn rhoi gwybod am ganlyniadau’r hyn a ddigwyddodd ar ôl i’r Pwyllgor Deisebau ystyried deiseb a gynigiwyd gan ddisgyblion Ysgol Hen Felin.
Mae’r clip ar gael yn Saesneg yn unig gan nad yw’r disgyblion yn gallu siarad Cymraeg. Fodd bynnag, mae sgript Cymraeg o’r clip ar gael.
"Helo, fy enw i yw Bethan Jenkins ac rwy’n aelod o’r Pwyllgor Deisebau a fu’n edrych ar eich deiseb yn ddiweddar yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
'Yr ydym ni’r rhai sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer grwpiau fel VIVA i’n galluogi i wneud mwy o weithgareddau min nos.’
Mae’r Pwyllgor wedi penderfynu yr hoffai wneud ffilm fer i esbonio i chi beth sydd wedi digwydd i’ch deiseb a’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni drwy godi’r pwnc pwysig hwn.
Edrychodd y Pwyllgor Deisebau ar eich deiseb am y tro cyntaf ar 21 Chwefror 2008. Penderfynom yn gyflym yr hoffem glywed mwy gennych felly fe’ch gwahoddwyd i ddod yma, i’r Senedd, i siarad â ni.
Ar ôl toriad y Pasg ar 8 Mai 2008, daeth Robert a Bethan i siarad â ni.
[Symud i drosleisiad a chlip o’r sesiwn dystiolaeth]
Rhoddwyd esboniad da iawn ganddynt o’r hyn roeddent am ei gyflawni drwy’r ddeiseb hon a chytunom ni, fel pwyllgor, i ysgrifennu at Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, i roi gwybod iddi am eich deiseb a’r materion a godwyd ynddi.
Y Gweinidog yw’r person sy’n gwneud penderfyniadau ar ddarparu mwy o arian ar gyfer gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol.
Ysgrifennodd y Gweinidog atom i ddweud ei bod yn edmygu’ch ymrwymiad i wneud rhywbeth - nid yn unig ar gyfer eich clwb chi, Viva, ond i’w gwneud yn haws i bobl ifanc ledled Cymru fynychu clybiau tebyg.
[Golwg agos ar y llythyr]
Dywedodd hefyd y bydd yn darparu £1 miliwn y flwyddyn am o leiaf tair blynedd arall i gefnogi mwy o gyfleoedd chwarae.
Edrychodd y Pwyllgor ar lythyr y Gweinidog yn ein cyfarfod ar 25 Mehefin a phenderfynom ofyn cwestiwn arall i’r Gweinidog. Gofynnom iddi a fyddai mwy o arian ar gael, ar ben yr £1 miliwn y flwyddyn a grybwyllwyd ganddi.
Ysgrifennodd y Gweinidog atom i ddweud ei bod wedi gofyn i Weinidogion eraill Llywodraeth Cymru - y bobl sy’n gyfrifol am bethau fel trafnidiaeth, iechyd a’r amgylchedd yng Nghymru - geisio defnyddio'r arian sydd ganddynt i helpu pobl ifanc cymaint ag y gallant. Buom yn ystyried hyn yn ein cyfarfod ym mis Hydref.
Penderfynom y byddwn yn aros i weld sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud hyn. Ar 3 Tachwedd, cafwyd cyhoeddiad gan Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
Dywedodd, ar gyfer y flwyddyn yn dechrau ym mis Ebrill 2009 ac yn gorffen ym mis Mawrth 2010, y bydd £2.75 miliwn ar gyfer pethau fel mwy o gyfleoedd chwarae a galluogi cynghorau lleol i ariannu gwyliau byr i blant ag anghenion cymhleth.
Cynhaliwyd cyfarfod arall gan y Pwyllgor Deisebau ar 20 Tachwedd a buom yn trafod yr hyn a ddywedodd y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor fod eich deiseb wedi helpu i sicrhau bod yr arian ychwanegol hwn ar gael, ac roeddem yn credu bod hwn yn lwyddiant go iawn y dylech fod yn falch ohono.
Rydym ni, fel Pwyllgor Deisebau, yn gobeithio ein bod wedi eich helpu i gael y canlyniad llwyddiannus hwn.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bob un ohonoch a helpodd i gynnig y ddeiseb a hoffwn ddiolch yn arbennig i Robert a Bethan a ddaeth yma i siarad â ni. Roedd holl aelodau’r Pwyllgor - Val, Mike, Andrew a fi - yn bles iawn â’r ffordd y gwnaethoch chi ein helpu ni i ddeall eich pryderon.
I gloi, hoffwn ofyn i chi wneud rhywbeth ar ein rhan ni. Hoffwn glywed eich barn chi am y broses ddeisebu - beth oedd yn llwyddiannus a beth y gellid ei wneud yn well. Cysylltwch â ni i fynegi’ch barn.
Dyma ddiwedd yr adroddiad byr hwn ar eich deiseb - diolch am wrando a da iawn chi."
