P-03-101 - Cynllun gwastraff rhanbarthol drafft Gogledd Cymru
Derbyniwyd y ddeiseb: 29 Ionawr 2008
Prif ddeisebydd: Sam Rex
Nifer y deisebwyr: 61
Geiriad y ddeiseb:
'Rydym ni gynrychiolwyr TCC, sydd wedi arwyddo isod, yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru:
Gydnabod bod yr ymgynghoriad ar Adolygiad Cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yn ddiffygiol o ran y broses a’r cynnwys (e.e. y diffyg ystyriaeth a roddwyd i leihau gwastraff), fel yr eglurwyd yn ymateb ffurfiol TCC i’r ymgynghoriad, ac felly ni ellir ei ystyried yn gynrychioladol o farn pobl Gogledd Cymru.
Ymestyn y cyfnod ymgynghori er mwyn i’r cyhoedd, y cynghorwyr a’r grwpiau eraill sydd â diddordeb ddatblygu ymatebion a ystyriwyd i’r Cynlluniau.
Sicrhau bod hawliau pobl Gogledd Cymru’n cael eu diogelu o dan y system gynllunio ffurfiol, fel nad yw Ceisiadau Cynllunio ar gyfer cyfleusterau gwastraff yn cael eu cymeradwyo drwy ddefnyddio’r weithdrefn Tystysgrif Cyfreithlondeb (CLOPUD).
Ddatblygu canllawiau arfer gorau ar gyfer gweithdrefnau ymgynghori i’w defnyddio gan bob cwmni sy’n cael ei gomisiynu i gynnal ymarferion ymgynghori gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 11 Mehefin 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 11 Mehefin 2008
