Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-113 - Prawf PSA

Derbyniwyd y ddeiseb: 21 Chwefror 2008

Prif ddeisebydd: Geraldine Long, (AICR)

Nifer y deisebwyr:

Geiriad y ddeiseb:

Mae’r Gymdeithas Ymchwil Canser Ryngwladol (AICR) yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i newid polisi’r GIG i sicrhau bod y prawf PSA ar gael os gofynnir, i bob dyn dros 50, a helpu i arbed mwy na 10,000 o ddynion sy’n marw o ganser y brostad bob blwyddyn.

Un o’r pethau sydd gan ddynion America nad oes gan ddynion Prydain yw mynediad rheolaidd at y prawf PSA, prawf gwaed sy’n cael ei wneud gan Feddygon Teulu, a all wneud diagnosis o ganser y brostad.  Er bod rhai anfanteision pwysig i’r prawf, mae tystiolaeth ar draws y byd yn dangos bod defnydd ehangach o’r prawf PSA yn gysylltiedig â  chyfraddau uwch o bobl yn goroesi gyda chanser y brostad.  Yn y DU nid oes gan ddynion sy’n pryderu am eu prostad hawl awtomatig i’r prawf PSA.  Mae cyfradd y rhai sy’n goroesi am bum mlynedd gyda chanser y brostad yn yr UDA yn 98.5%, o’i chymharu â dim ond 70% yma.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 9 Gorffennaf 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2008

Linc i'r Adroddiad Cwblhad ar gyfer P-03-113 (PDF, 429KB) (Atodiadau yn Saesneg yn unig)