P-03-167 - Dirywiad Macwlaidd Gwlyb sy’n Gysylltiedig â Henaint
Derbyniwyd y ddeiseb:
Prif ddeisebydd: Eileen Younghusband
Nifer y deisebwyr: 141
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r South Wales Echo wedi dechrau ymgyrch i sicrhau y rhoddir triniaeth gyfartal ym Mro Morgannwg ar gyfer y llygad gyntaf, fel yr hyn sydd ar gael yn Abertawe yn awr ar gyfer y clefyd llygad dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint.
Maent wedi cyhoeddi cyfres o erthyglau sy’n cynnwys Eileen Younghusband, sy’n dioddef o’r clefyd hwn ac sy’n ymgyrchu iddo fod ar gael i bawb lle bynnag y bônt yn byw yng Nghymru. Rhowch eich enw isod os ydych yn ei chefnogi. Diolch yn fawr.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 20 Tachwedd 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Tachwedd 2008
Linc i'r Adroddiad Cwblhad ar gyfer P-03-167 (PDF, 236KB) (Atodiadau yn Saesneg yn unig)
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
16 Hydref 2008
