P-03-184 - Polisi tocynnau rhatach ar lwybrau bysiau gwledig
Derbyniwyd y ddeiseb: 24 Hydref 2008
Prif ddeisebydd: Anne Price
Nifer y deisebwyr: 756
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru adolygu’r polisi tocynnau rhatach ar frys o ran ariannu llwybrau bysiau gwledig.
Mae’r polisi presennol yn golygu bod llwybrau teithiau hir gwledig yn derbyn arian sy’n seiliedig ar gyfartaledd y depo, a gall hyn fod yn isel am fod nifer fwy o lwybrau bysiau trefol.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gwrthwynebu’n gryf y bwriad arfaethedig i gau llwybr bws 333 rhwng Doc Penfro a Chaerfyrddin oherwydd y polisi tocynnau rhatach.
Defnyddir y llwybr hwn yn bennaf gan ddeiliaid pasys tocynnau rhatach er mwyn cyrraedd y gwasanaethau yn Ysbyty Glangwili a gwasanaethau deintyddol yn ogystal â siopau.
Ers cau gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Ninbych-y-pysgod, cafodd yr holl gleifion eu trosglwyddo’n awtomatig i Gaerfyrddin.
Yn ogystal, caiff nifer sylweddol o glinigau eu cynnal yn Ysbyty Glangwili, felly mae’r llwybr bws hwn yn hanfodol i ddarparu ffordd rwydd a theg i bawb gyrraedd y gwasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 31 Mawrth 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Mawrth 2009
Linc i'r Adroddiad Cwblhau ar gyfer P-03-184 (PDF, 214KB)
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau
4 Rhagfyr 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 4 Rhagfyr 2008
27 Ionawr 2009
