P-03-197 - Achub y Vulcan

Derbyniwyd y ddeiseb: 12 Chwefror 2009

Prif deisebydd: Rachel Thomas

Nifer y ddeisebwyr: 5000

Geiriad y ddeiseb:

‘Mae Gwesty’r Vulcan yn Stryd Adam, a adeiladwyd yn 1853, yn un o dafarndai hynaf Caerdydd. Trefnwyd iddo gael ei ddymchwel ym mis Mehefin 2009 i wneud lle i faes parcio aml-lawr a fflatiau. Helpwch ni i wneud i’r datblygwyr gynnwys y Vulcan yn eu dyluniadau a rhoi stop ar y fandaliaeth ddianghenraid hon o ddiwylliant a hanes Caerdydd.

Mae sôn am symud y dafarn i Amgueddfa Sain Ffagan ond ni ddylai’r Vulcan fod mewn amgueddfa; dylai fod lle y bu am 155 blynedd – yng nghanol Caerdydd.  

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn credu bod mwy o werth i Gaerdydd o gael Gwesty’r Vulcan yn sefyll nag o’i gael wedi’i ddymchwel, ac mae mwy o werth iddo o’i gael yn sefyll lle y mae nag o’i gael mewn amgueddfa. Rydym yn annog y datblygwyr i barchu diwylliant a hanes Caerdydd a diogelu’r adeilad hanesyddol hwn ar ei safle presennol.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau

  • 2 Mawrth 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 2 Mawrth 2009

  • 17 Mawrth 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Mawrth 2009

  • 5 Mai 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 5 Mai 2009

  • 19 Mai 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 19 Mai 2009

  • 9 Mehefin 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 9 Mehefin 2009

  • 7 Gorffennaf 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2009

  • 22 Medi 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009

  • 15 Mehefin 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 15 Mehefin 2010

  • 25 Ionawr 2011

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • ysgrifennu at y Gweinidog dros Dreftadaeth i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd ynghylch y ddeiseb ar y Vulcan:

  • datblygu cyngor ar feini prawf rhestru a rhestru lleol;

  • y cynnydd o ran y Mesur Seneddol ynghylch Gwarchod Treftadaeth;

  • canlyniadau’r drafodaeth â’r swyddogion Cynllunio a Threftadaeth mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol a gwarchod adeiladau sydd o ddiddordeb lleol.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Ionawr 2011

  • 15 Mawrth 2011

Argymhellodd y Pwyllgor:

  • Y dylai’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y ddeiseb yn y dyfodol ailystyried hyn i fonitro’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 15 Mawrth 2011

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help