P-03-200 - Camlas Morgannwg

Derbyniwyd y ddeiseb: 10 Chwefror 2009

Prif deisebydd: John Williams

Nifer y ddeisebwyr: 14

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi’r awydd i greu llwybr hanesyddol Camlas Morgannwg o Ferthyr i Fae Caerdydd gan nodi lleoliadau o bwys ar y ffordd, ynghyd â safleoedd hanesyddol eraill o fewn cyrraedd i’r Gamlas e.e. Llong Ysbyty Hamadryad, fel modd o annog diddordeb yn hanes y rhanbarth a thwristiaeth a darparu llwybr cerdded a beicio diddorol a heriol.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 19 Mai 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 19 Mai 2009

  • 22 Medi 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009

  • 25 Mai 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Mai 2010

  • 13 Gorffennaf 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2010

  • 12 Hydref 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • Ysgrifennu at Gyngor Caerdydd yn gofyn fod y prif ddeisebydd yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y Rhwydwaith Beicio Strategol yn y dyfodol.

  • Ysgrifennu at Gyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn am ragor o wybodaeth am eu trafodaethau â Chynghrair Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWTA), ac yn benodol a yw’r Gynghrair yn bwriadu bwrw ymlaen â’u cynlluniau ac os felly a oes modd cynnwys y deisebwyr wrth ddatblygu’r cynlluniau.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 12 Hydref 2010

  • 30 Tachwedd 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • ysgrifennu at y deisebwyr, gyda manylion yr ymatebion gan  Fwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro;

  • ysgrifennu at Gyngor Caerdydd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda’r Cynllun Rhwydwaith Beicio Strategol; ac

  • ysgrifennu at Gyngor Rhondda Cynon Taf i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda’r cais SEWTA.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 30 Tachwedd 2010

  • 11 Ionawr 2011

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • aros am ymatebion gan gynghorau Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 11 Ionawr 2011

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help