P-03-216 - Triniaeth IVF

Derbyniwyd y ddeiseb: 9 Ebrill 2009

Prif deisebydd: Kara Ellard a Julia Enyon

Nifer y deisebwyr: 4241

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu proses ffurfiol a fydd yn arwain at roi canllaw clinigol CG11 NICE ar ffrwythlondeb (a gyhoeddwyd yn 2004) ar waith yn llawn, gan gynnwys ei argymhelliad i ddarparu hyd at dair cylchred lawn o IVF. Dylai’r GIG gynnig tair cylchred lawn am ddim.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 6 Hydref 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Hydref 2009

  • 24 Tachwedd 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 24 Tachwedd 2009

  • 29 Mehefin 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 29 Mehefin 2010

  • 28 Medi 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • Ysgrifennu at y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

    • Yn gofyn i ba raddau y mae triniaeth IVF ar gael drwy Gymru        

    • Yn gofyn pa welliannau a wneir i gynyddu faint o gylchoedd IVF sydd ar gael am ddim i’r rhai sy’n gymwys

    • Yn gofyn a fydd yn y dyfodol ystyriaeth i gynnydd pellach i 3 cylch IVF, fel yr argymhellwyd gan NICE.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 28 Medi 2010

  • 16 Tachwedd 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am fanylion unrhyw achosion y maent yn ymwybodol ohonynt lle mae cleifion yn methu â chael mynediad at ail gylch o driniaeth, fel y gellir dod â hyn i sylw’r Gweinidog; ac

  • ysgrifennu at y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a oes ganddi unrhyw syniad ynglyn â pha bryd y gall gyflwyno’r trydydd cylch ar y GIG.   

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2010

  • 08 Chwefror 2011

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • gau’r ddeiseb a pharatoi adroddiad cryno.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 08 Chwefror 2011

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help