P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol
Derbyniwyd yu ddeiseb: 11 Mai 2009
Prif deisebydd: Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol
Nifer y deisebwyr: 28
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu’r safon ar gyfer cwympo a thorri esgyrn yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaetholar gyfer Pobl Hyn yn llawn, gan sicrhau bod cleifion sydd wedi torri esgyrn oherwydd breuder, neu sydd mewn perygl o wneud hynny, yn cael eu hadnabod, eu hasesu a’u trin gan wasanaethau cyswllt torri esgyrn ym mhob un o’r Byrddau Iechyd Lleol newydd. Hoffwn weld gwasanaeth cyswllt torri esgyrn yn cael ei gysylltu â phob ysbyty sy’n trin cleifion sydd wedi torri esgyrn oherwydd breuder a gofynnwn i lywodraeth Cymru fynnu bod gwasanaethau cyswllt torri esgyrn yn cael eu darparu’n gyffredinol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.Statws y ddeiseb: Ar agor
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
7 Gorffennaf 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2009
6 Hydref 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Hydref 2009
24 Tachwedd 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 24 Tachwedd 2009
29 Mehefin 2010
