P-03-223 Adran 6, Deddf yr Iaith Gymraeg
Derbyniwyd y ddeiseb: 21 Mai 2009
Prif deisebydd: Cynghorydd O Arfon Jones
Nifer y deisebwyr: 23
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio i’r posibilrwydd o ddiwygio ac i wneud gwelliannau i Adran 6, Deddf yr Iaith Gymraeg, i ddod ag Aelodau Seneddol o dan adain Deddf yr Iaith GymraegStatws y ddeiseb: Ar gau
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
7 Gorffennaf 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2009
6 Hydref 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Hydref 2009
13 Gorffennaf 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2010
28 Medi 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth sy’n ystyried Mesur y Gymraeg i ofyn a oes modd i’r materion a godwyd gan y ddeiseb gael eu hystyried yn y cyfnod diwygio.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 28 Medi 2010
16 Tachwedd 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gau’r ddeiseb a pharatoi a chyhoeddi adroddiad cloi cryno
