P-03-226 - Sands - yr elusen dros farw-enedigaethau a marwolaethau ymysg plant newydd-anedig

Derbyniwyd y ddeiseb: 29 Mai 2009

Prif deisebydd: Sands - yr elusen dros farw-enedigaethau a marwolaethau ymysg plant newydd-anedig

Nifer y deisebwyr: 816

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i: 1. gymryd sylw o’r ‘Saving Babies’ Lives Report 2009’, a gyhoeddwyd gan Sands i gefnogi ei ymgyrch ‘Why 17?’ 2. datblygu strategaeth i leihau nifer y marw-enedigaethau a’r marwolaethau ymysg plant newydd-anedig yng Nghymru 3. ariannu ymchwil pellach i wella’r ddealltwriaeth ynghylch pam mae marw-enedigaethau a marwolaethau ymysg plant newydd-anedig yn digwydd 4. datblygu darpariaeth gofal cynenedigol o safon aur ym mhob Ymddiriedolaeth y GIG yng Nghymru 5. gweithio gyda Sands i wella’r ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r materion hyn

Statws y ddeiseb: Ar gau

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 7 Gorffennaf 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2009

  • 22 Medi 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009

  • 30 Tachwedd 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • gau’r ddeiseb a chyhoeddi adroddiad cloi cryno.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 30 Tachwedd 2010

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help