P-03-231 - Pa mor agos yw tyrbinau gwynt at dai preswyl
Derbyniwyd y ddeiseb: 16 Mehefin 2009
Prif deisebydd: Glyncorrwg Action Group
Nifer y deisebwyr: 171
Geiriad y ddeiseb:
Gofynnwn i’r Cynulliad adolygu’r darpariaethau presennol ynghylch pa mor agos y caiff tyrbinau gwynt fod at gartrefi, sef 500m ar hyn o bryd (gweler paragraff 3.4, Atodiad D i TAN8).
Gofynnwn i’r pellter lleiaf fod yn 2KM fel yn yr Alban.
Ynghyd â’r swn, bu llawer o ddamweiniau ac mae’r ffaith bod y tyrbinau mor agos at gartrefi yn effeithio ar harddwch yr ardal leol i drigolion.
Statws y ddeiseb: Ar gau
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
7 Gorffennaf 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2009
22 Medi 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009
24 Tachwedd 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 24 Tachwedd 2009
1 Chwefror 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 1 Chwefror 2010
12 Hydref 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai i ofyn:
A yw’r adolygiad o TAN 8 wedi edrych yn fanwl ar y mater hwn?
A yw hi’n rhagweld y bydd y canllawiau’n cael eu haddasu er mwyn estyn y llain glustogi o amgylch ffermydd gwynt?
a oes camau wedi’u cymryd i ddynodi ac adolygu arferion mewn gwledydd eraill
fod y deisebwyr yn cael eu cynnwys yn y broses ymgynghori.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 12 Hydref 2010
30 Tachwedd 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ei barn ar y ddeiseb a gofyn a yw awdurdodau cynllunio lleol yn defnyddio parth clustogi mwy na’r lleiaf a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol 8 wrth ddod i benderfyniadau ynglyn â chynllunio.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 30 Tachwedd 2010
25 Ionawr 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
gau’r ddeiseb a chyflwyno adroddiad crynhoi.
