P-03-232 - Coetir Ffynnone a Cilgwyn
Derbyniwyd y ddeiseb: 19 Mehefin 2009
Prif deisebydd: Cyngor Cymuned Manordeifi Community Council
Nifer y deisebwyr: 329
Geiriad y ddeiseb:
Mae Cyngor Cymuned Manordeifi Community Council yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i’r cyllid a roddwyd i Calon yn Tyfu / Growing Hearts Ltd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer prynu coetiroedd Ffynone a Chilgwyn yng Ngogledd Sir Benfro o dan Gynllun Cydcoed, a ariennir yn gyhoeddus.Statws y ddeiseb: Ar agor
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
7 Gorffennaf 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2009
22 Medi 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009
6 Hydref 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Hydref 2009
28 Medi 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn a yw ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru yn mynd i’r afael â’u pryderon;
ysgrifennu at y Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru i ofyn eu barn am yr adroddiad a sut y byddant yn ymateb i’r argymhellion a wnaed ynddo.
ysgrifennu at y Gweinidog dros Faterion Gwledig i ofyn sut y bydd darganfyddiadau ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn llythyrau gwaith yn y dyfodol at y Comisiwn Coedwigaeth.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 28 Medi 2010
16 Tachwedd 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i’w wneud yn ymwybodol o bryderon parhaus y deisebwyr, ac i ofyn am i’r materion hyn gael eu hystyried wrth holi Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar ôl y sesiwn dystiolaeth.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2010
25 Ionawr 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
ddisgwyl i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gael ei gyhoeddi;
ofyn am eglurhad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru’n berchen ar goetiroedd Cymru yng nghyd-destun polisi arfaethedig Llywodraeth y DU ar goetiroedd sydd o dan berchenogaeth y wlad.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Ionawr 2011
01 Mawrth 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gau’r ddeiseb a pharatoi adroddiad cryno.
