P-03-234 Mae ar Gymru angen mwy o goed brodorol

Derbyniwyd y ddeiseb: 13 Gorffennaf 2009

Prif deisebydd: Coed Cadw (The Woodland Trust)

Nifer y deisebwyr: 2165

Geiriad y ddeiseb:

Mae ar Gymru angen mwy o goed brodorol! Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn croesawu targed Comisiwn Coedwigaeth Cymru i greu 1,500 hectar o goetir newydd dros y tair blynedd nesaf ac rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth i gyrraedd y targed hwn, fel cam cyntaf tuag at ddyblu faint o dir sydd yn goetir brodorol erbyn 2050. Cymru yw un o’r gwledydd ac ynddi’r lleiaf o goed yn Ewrop. Rydym yn cefnogi’r uchelgais a amlinellwyd yn y Strategaeth Coetiroedd i Gymru i greu mwy o goetiroedd er budd pobl a bywyd gwyllt, i helpu i osgoi llifogydd, i amsugno carbon deuocsid o’r awyrgylch a hefyd i sicrhau cyflenwad cynaliadwy o bren ar gyfer y dyfodol.

Statws y ddeiseb: Ar gau

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 22 Medi 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009

  • 10 Tachwedd 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Tachwedd 2009

  • 19 Ionawr 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 19 Ionawr 2010

  • 1 Chwefror 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 1 Chwefror 2010

  • 15 Mehefin 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 15 Mehefin 2010

  • 28 Medi 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn eu barn ar yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig, ac yn benodol, a fydd y newidiadau arfaethedig i’r cynlluniau grantiau coetiroedd yn cynorthwyo amcanion y ddeiseb.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 28 Medi 2010

  • 30 Tachwedd 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • ysgrifennu at y Gweinidog dros Faterion Gwledig i fynegi pryderon y deisebwyr am isafswm y trothwy ar gyfer cymhwysedd grant ac i ofyn a ellir diwygio Grantiau Creu Coetiroedd Glastir er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn.  

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 30 Tachwedd 2010

  • 25 Ionawr 2011

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • gau’r ddeiseb a chyhoeddi adroddiad byr.  

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Ionawr 2011

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help