P-03-235 - Rhowch y gorau i’r cynllun difa moch daear (deiseb yr RSPCA)
Derbyniwyd y ddeiseb: 25 Mehefin 2009
Prif deisebydd: Molly Duncan
Nifer y deisebwyr: 304
Geiriad y ddeiseb:
Llofnodwch y ddeiseb heddiw a lleisio’ch barn yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddifa moch daear yng Nghymru fel rhan o strategaeth i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg.
Mae’r RSPCA wedi cael ei synnu gan y penderfyniad i ddifa moch daear ond mae’n croesawu’r cynlluniau i brofi mwy o wartheg ac i wella bioddiogelwch.
Bu’r Grwp Gwyddonol Annibynnol yn goruchwylio arbrawf i ddifa moch daear yn Lloegr dros 10 mlynedd, a gostiodd £34 miliwn a lladd bron i 11000 o foch daear. Canfu’r ymchwil fod difa moch daear yn newid ymddygiad cymdeithasol y moch daear sy’n weddill, a bod hynny’n ei dro’n cynyddu’r risg y bydd afiechyd yn lledu i foch daear eraill a gwartheg. Dim ond drwy gael gwared ar foch daear dros ardaloedd eang iawn y gellir osgoi’r risg o afiechyd. Daeth y Grwp Gwyddonol Annibynnol i’r casglu nad yw difa moch daear ar raddfa o’r fath yn opsiwn dichonadwy ar gyfer eu rheoli, a hynny oherwydd pryderon yn ymwneud ag elfennau ymarferol, economaidd, cyfreithiol, amgylcheddol a lles.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 10 Tachwedd 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Tachwedd 2009
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
22 Medi 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009
20 Hydref 2009
