P-03-238 - Llygredd ym Mornant Porth Tywyn

Derbyniwyd y ddeiseb: 30 Mehefin 2009

Prif deisebydd: Rhys Williams

Nifer y deisebwyr: 2240

Geiriad y ddeiseb:

Deiseb gan drigolion Sir Gaerfyrddin yn gofyn am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth cynulliad Cymru i’r llygredd carthffosiaeth ym Mornant Porth Tywyn a Bae Caerfyrddin.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 22 Medi 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009

  • 10 Tachwedd 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Tachwedd 2009

  • 19 Ionawr 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 19 Ionawr 2010

  • 23 Mawrth 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 23 Mawrth 2010

  • 11 Mai 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 11 Mai 2010

  • 29 Mehefin 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 29 Mehefin2010

  • 28 Medi 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • Ysgrifennu at y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai i ganfod pa ystyriaeth sydd wedi’i rhoi yn ystod yr ymchwiliad cyfredol i effaith y bibell garthffosiaeth doredig a ddarganfuwyd yn 2005, ac os felly, sut y mae hyn wedi llywio’r ymchwiliadau.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 28 Medi 2010

  • 16 Tachwedd 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • ysgrifennu at y deisebwyr i’w gwneud yn ymwybodol o’r ffordd y cafodd y digwyddiad o lygredd yn 2005 ei ystyried mewn ymchwiliadau i farwolaeth cocos, a’r memorandwm dealltwriaeth rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Dwr Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru; ac

  • i ysgrifennu at y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai i ofyn am i gopi o’r adroddiad terfynol ar farwolaeth cocos gael ei anfon at y Pwyllgor pan gaiff ei gyhoeddi.  

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2010

  • 29 Mawrth 2011

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am enghreifftiau penodol o lle maent yn teimlo nad yw Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu ei dyletswyddau statudol.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 29 Mawrth 2011

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help