P-03-239 - Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgolion Cymru

Derbyniwyd y ddeiseb: 8 Gorffennaf 2009

Prif deisebydd: Nick Jones

Nifer y deisebwyr: 10 (Yn ychwanegol at hynny, casglodd y deisebwyr 3000+ o lofnodion ychwanegol ar gyfer deiseb gysylltiol).

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ofyn bod Prifysgolion Cymru yn darparu rhaglen dysgu gydol oes sy’n llawn ac yn amrywiol drwy wneud hyn yn amod ar unrhyw arian cyhoeddus y maent yn ei dderbyn.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 22 Medi 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009

  • 10 Tachwedd 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Tachwedd 2009

  • 12 Hydref 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn eu barn am yr ymatebion oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac Addysg Uwch Cymru a hefyd yn gofyn am eglurhad ynghylch dehongliad y deisebwyr o ‘ddysgu gydol oes’ ac yn benodol, a yw hyn yn cydfynd â dehongliad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac Addysg Uwch Cymru.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 12 Hydref 2010

  • 08 Chwefror 2011

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • ysgrifennu at y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am ei farn ar ymateb y deisebydd ac i ofyn sut y gall y Llywodraeth helpu i gefnogi prifysgolion i barhau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 08 Chwefror 2011

  • 15 Mawrth 2011

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • Gau’r ddeiseb a pharatoi adroddiad cryno.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 15 Mawrth 2011

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help