P-03-240 - Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Derbyniwyd y ddeiseb: 14 Gorffennaf 2009

Prif deisebydd: Cyngor Cymuned Llanddewi Felffre

Nifer y deisebwyr: 154

Geiriad y ddeiseb:

Oherwydd y lefel gynyddol o draffig, yn enwedig cerbydau nwyddau trwm, ar yr A40 ac oherwydd y ddarpariaeth annigonnol o balmentydd a chroesfannau cerddwyr diogel, a gydnabyddir gan yr Asiantaeth Cefnffyrdd drwy ymchwil â gyflwawnwyd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella diogelwch ar y ffordd ym mhentre Llanddewi Felffre, Arberth, Sir Benfro, drwy roi’r mesurau a ganlyn ar waith, a hynny ar fyrder:

  1. Gwella’r palmant annigonol ar hyd ochr ddeheuol yr A40 rhwng Llandaff Row a phen dwyreiniol y pentref i sicrhau ei fod yn boddhau safonau diogewlch presenol, a’i fod yn ddigon llydan i gael ei ddefnyddio’n ddiogel gan gerddwyr, cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn gan roi ystyriaeth i’r ffaith bod cerbydau nwyddau trwm yn gyrru heibio’n agos ac yn aml ac yn gyrru'n gyflymach na’r terfyn cyflymder presennol o 40 mya.

  2. Gosod camerâu cyflymdra yn nwyrain ac yng ngorllewin y pentref.

  3. Defnyddio system drydanol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer arwyddion i groesi’r ffordd er mwyn darparu goleuadau rhybudd sy’n fflachio ar adegau pan fydd plant yn croesi’r A40 i ddal eu bws ysgol.

  4. Gosod mesurau i ostegu traffig bob ochr i’r pentref ac ar gyffyrdd i bwysleisio’r angen i arafu.

  5. Gostwng y terfyn cyflymder i 30mya.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 22 Medi 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009

  • 10 Tachwedd 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Tachwedd 2009

  • 8 Rhagfyr 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2009

  • 1 Chwefror 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 1 Chwefror 2010

  • 23 Mawrth 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 23 Mawrth 2010

  • 25 Mai 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Mai 2010

  • 16 Tachwedd 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • ddychwelyd at y mater ar ôl chwe mis pan fydd yr adolygiad o’r terfyn cyflymder ar yr A40 (T) ger y Fenni wedi’i gynnal.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2010

  • 29 Mawrth 2011

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • Ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am y gwaith arfaethedig ar yr A40 yn Llanddewi Felffre.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 29 Mawrth 2011

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help