P-03-252 - Gwrthwynebu ffordd fynediad ogleddol canolfan y Llu Awyr Brenhinol Sain Tathan
Derbyniwyd y ddeiseb: 23 Medi 2009
Prif deisebydd: Trigolion Trebefered
Nifer y deisebwyr: 1 (Yn ychwanegol, casglodd y deisebydd 377 llofnod ar gyfer deiseb gysylltiedig)
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i newid ei chynlluniau ar gyfer Academi Dechnegol Amddiffyn yn Sain Tathan fel nad oes ffordd fynediad ogleddol yn cael ei hadeiladu a bod y safleoedd maes glas yn Fferm Tremain, Picketston ac Eglwys Brewis yn cael eu cadw.
Byddai hyn yn cymryd i ystyriaeth safbwyntiau 95% o’r 395 unigolyn yr ymgynghorwyd â hwy yn Nhrebefered.
Statws y ddeiseb: Ar agor
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
20 Hydref 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Hydref 2009
24 Tachwedd 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 24 Tachwedd 2009
23 Mawrth 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 23 Mawrth 2010
25 Mai 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Mai 2010
12 Hydref 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ail-edrych ar y ddeiseb pan fydd yr Adolygiad Strategol o Amddiffyn a Diogelwch wedi’i gwblhau.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 12 Hydref 2010
16 Tachwedd 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn a fydd y ffordd arfaethedig yn mynd rhagddi yn dilyn canlyniad yr Adolygiad Strategol o Amddiffyn
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2010
11 Ionawr 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
aros am ddatganiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gynlluniau ar gyfer Coleg Technegol Amddiffyn a ddisgwylir ym mis Mawrth.
