P-03-253 - Mabwysiadu carthffosydd preifat

Derbyniwyd y ddeiseb: 7 Hydref 2009

Prif deisebydd: Tracy Thomas

Nifer y deisebwyr: 260

Geiriad y ddeiseb:

Mae deiseb trigolion Sir Gaerfyrddin yn gofyn i Gynulliad Cymru sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyflymu ei thrafodaethau â Dwr Cymru ac yn cytuno ar y dyddiad cynharaf posibl i garthffosydd preifat ar ystadau tai presennol gael eu mabwysiadu gan Ddwr Cymru a bod carthffosydd ar ddatblygiadau yn y dyfodol yn cael eu mabwysiadu yn yr un modd.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 20 Hydref 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Hydref 2009

  • 8 Rhagfyr 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2009

  • 23 Mawrth 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 23 Mawrth 2010

  • 15 Mehefin 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 15 Mehefin 2010

  • 28 Medi 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • ysgrifennu at Ofwat ynghylch beth y mae’n ei olygu o ran cost i drosglwyddo’r garthffos ac i gael sicrwydd a ydynt yn rhagweld y bydd y gost ychwanegol hon yn gost sefydlog i rai sy’n talu biliau.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 28 Medi 2010

  • 16 Tachwedd 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:   

  • ysgrifennu at y deisebwyr gyda manylion am ohebiaeth OFWAT; ac

  • i ysgrifennu at y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai i ofyn am gael gwybod am ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau drafft, ac i ofyn am amserlen ar gyfer gweithredu ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.   

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2010

  • 11 Ionawr 2011

Cytunodd y Pwyllgor i:

  •  aros am ganfyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus ar fabwysiadu carthffosydd preifat; ac

  •  ysgrifennu at y deisebwr i’w hysbysu y disgwylir i’r gwaith trosglwyddo ddigwydd ym mis Hydref 2011.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 11 Ionawr 2011

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help