P-03-291 - Datblygwch wasanaethau gwybodaeth am HIV a iechyd rhyw

Derbyniwyd y ddeiseb: 19 Mai 2010

Prif deisebydd: Speak Out Gwent and Merthyr Tydfil LGB Group Nifer y deisebwyr: 10

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu adnodd aml-lwyfan i bobl ifanc, sy’n rhoi gwybodaeth am HIV a iechyd rhyw ar ffurf debyg i ymgyrch gyffuriau FRANK.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 29 Mehefin 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 29 Mehefin 2010

  • 13 Gorffennaf 2010

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2010

  • 28 Medi 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu at y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am fanylion y Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol yng Nghymru ac am gadarnhad pa grwpiau y gofynnwyd iddynt gymryd rhan yn yr adolygiad o wybodaeth iechyd rhywiol.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 28 Medi 2010

  • 16 Tachwedd 2010

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • ysgrifennu at y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am fanylion am y Cynllun Gweithredu Iechyd Rhywiol.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2010

  • 01 Mawrth 2011

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • Ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn ynghylch yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a thynnu sylw at y camau perthnasol yn y Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhyw.

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 01 Mawrth 2011

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help