P-03-295 - Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig
Derbyniwyd y ddeiseb: 12 Mehefin 2010
Prif deisebydd: Kyle's Goal Nifer y deisebwyr: 1. (Casglodd deiseb gysylltiedig 9128 o lofnodion.)Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gydnabod ac i ddarparu gwasanaethau ar gyfer adsefydlu plant sydd wedi cael anafiadau i’r ymennydd. Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster yng Nghymru i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn. Er gwaetha’r ffaith bod ysbyty benodol ar gyfer plant yn cael ei hadeiladu yng Nghaerdydd, nid oes darpariaeth o hyd wedi’i chynnwys yng nghynllun yr ysbyty hwnnw.
Statws y ddeiseb: Ar agor
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
29 Mehefin 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 29 Mehefin 2010
13 Mehefin 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2010
30 Tachwedd 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
i ofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cwblhau manyleb fanwl y gwasanaeth niwroleg paediatrig gan Fwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro;
i amlygu pryderon y deisebwyr nad yw’r arian ar gael yn llawn ar gyfer gwasanaethau adsefydlu; ac
i ailadrodd y cais am wybodaeth am nifer y cleifion sydd angen gwasanaethau niwroadsefydlu paediatrig arbenigol dwys
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 30 Tachwedd 2010
25 Ionawr 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
ofyn am farn y deisebwyr ar ohebiaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru;
ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ofyn pryd y bydd cynllun blynyddol 2011-12 wedi’i orffen ac i gael gwybodaeth am fanylion y cynllun mewn perthynas â gwasanaethau niwroadsefydlu pediatrig.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Ionawr 2011
15 Mawrth 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a oes unrhyw gynlluniau i gynnal cynllun peilot ar daliadau iechyd uniongyrchol neu i’w cyflwyno yng Nghymru.
