P-03-065 - Taliadau Deintyddol y GIG
Derbyniwyd y ddeiseb: 19 Gorffennaf 2007
Y prif ddeisebydd: Mrs R M Swan, Grwp Sefydliad y Merched Hafren
Nifer y deisebwyr: 1
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sy’n aelodau o Grwp Sefydliad y Merched Hafren ac sydd wedi llofnodi’r ddeiseb hon, yn siomedig iawn â graddfa bresennol taliadau deintyddol y GIG, yn enwedig y gwahaniaeth mawr rhwng cost y tri band triniaeth, yn arbennig rhwng band 2 sy’n costio £39 a band 3 sy’n costio £177.
Ni ellir cyfiawnhau bwlch mor fawr rhwng prisiau’r ddau fand uchaf. Rhaid bod modd cael ystod o brisiau canolradd ar gyfer yr holl wahanol driniaethau a ddarperir.
O gofio hyn, teimlwn yn gryf y dylid adolygu graddfa bresennol taliadau deintyddol y GIG a gofynnwn i chi ddwyn y mater i sylw’r Cynulliad Cenedlaethol ar ein rhan.
Statws y ddeiseb: Ar gau
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
20 Medi 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Medi 2007
8 Tachwedd 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2007
27 Ebrill 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 27 Ebrill 2010
15 Mehefin 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 15 Mehefin 2010
28 Medi 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gau’r ddeiseb a pharatoi adroddiad cloi cryno arni.
