P-03-066 - Rheilffordd o Abertawe i'r Mwmbwls

Derbyniwyd y ddeiseb: 25 Gorffennaf 2007

Y prif ddeisebydd: Mr Nortridge Perrott

Nifer y deisebwyr: 400

Geiriad y ddeiseb:

I Aelodau Cyffredin Anrhydeddus Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon sydd wedi ymgynnull yn y Senedd.

Mae deiseb wylaidd Mr Perrott ac eraill

yn nodi

bod dinasyddion wedi mwynhau gwasanaeth rheilffordd i deithwyr, y cyntaf a’r hynaf o’i fath yn y byd, rhwng Abertawe a’r Mwmbwls o 1807 tan 1959. Pan ddaeth Deddf Trafnidiaeth De Cymru 1959 i rym, cafodd Rheilffyrdd Ystumllwynarth a’r Mwmbwls eu dirwyn i ben mewn amgylchiadau dadleuol ac anghyfiawn, a hynny yn groes i ddymuniadau’r 12,311 o bobl a oedd wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r Ddeddf breifat a lleol hon.

Felly, mae’r deisebwyr yn erfyn ar i’ch Ty anrhydeddus gefnogi rheilffordd Abertawe i’r Mwmbwls fel system drafnidiaeth gyhoeddus arloesol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a gaiff ei gyrru gan ynni adnewyddadwy, ac yn annog y Llywodraeth i ymchwilio, law yn llaw â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, i ddichonoldeb ailosod ac adfer y rheilffordd er budd dinasyddion Abertawe.

A bydd eich deisebwyr, fel y mae’n rhwym arnynt ei wneud, yn parhau i erfyn etc.

Statws y ddeiseb: Wedi car au 10 Ebrill 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Ebrill 2008

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help