P-03-076 - Cymdeithas Cleifion Arennau Cymru yn galw am Ddeddf ar Ganiatâd Tybiedig ar gyfer Rhoi Organau
Derbyniwyd y ddeiseb: 09 Hydref 2007
Prif ddeisebydd: Mr John Reever
Nifer y deisebwyr: 23
Geiriad y ddeiseb:
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi bod yn galw ers tro i gyrff gydweithio i wella bob agwedd ar drawsblannu ac yn ei gyhoeddiad “BMA Organ Donation in the 21st century-Time for a consolidated approach”(2000) mae’n cefnogi egwyddor Caniatâd Tybiedig. Ym mis Awst 2007, cyhoeddodd y BMA ei bod o blaid system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, i’r rheini dros 16 oed, sy’n cynnwys mesurau diogelu ac sy’n ystyried barn perthnasau.
Yn ei adroddiad blynyddol ym mis Gorffennaf 2007, argymhellodd Syr Liam Donaldson, Prif Swyddog Meddygol Lloegr, y dylid newid y gyfraith yn ymwneud â rhoi organau o blaid system Caniatâd Tybiedig. Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Alan Johnson, yn awr yn galw am newid y system bresennol sy’n gofyn i bobl ddewis rhoi organau, gan fod organau sydd ar gael i’w trawsblannu’n brin iawn yn y DU. Ar gyfartaledd, mae un person yn marw bob diwrnod tra mae ar y rhestr aros am drawsblaniad. Ar 20 Medi 2007, cyhoeddodd Mr. Johnson bod tasglu wedi’i sefydlu i ymchwilio i system newydd a fyddai’n cymryd yn ganiataol fod pawb yn fodlon rhoi organau oni bai eu bod wedi nodi fel arall.
Ym mis Awst 2006 cyhoeddodd BMA Cymru/ Wales ddogfen “Saving Welsh Lives- The Case for Presumed Consent.” Ynddo, mae BMA Cymru/ Wales yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd y camau cyntaf a defnyddio’r pwerau deddfu newydd a gafodd o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i gyflwyno system caniatâd tybiedig, gyda mesurau diogelu, yng Nghymru.
Yn ei gyfarfod cyffredinol blynyddol ar 7 Hydref 2006, pleidleisiodd Cymdeithas Cleifion Arennau Cymru o blaid cefnogi BMA Cymru/ Wales yn ei ymdrech i newid y gyfraith ynghylch rhoi organau yng Nghymru a chreu system Caniatâd Tybiedig.
Yn ôl ffigyrau Trawsblannu’r DU ar gyfer 2005-2006, bu farw 31 o gleifion yng Nghymru a oedd ar y rhestr aros am drawsblaniad ac roedd 311 o gleifion yng Nghymru yn aros am organ newydd. Dengys astudiaethau y byddai dros 70% o bobl yn fodlon rhoi eu horganau wedi iddynt farw. Er hyn, dim ond 20% o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG. Gwelwn, o’r ffeithiau hyn, nad yw’r system bresennol yn llwyddo i sicrhau bod digon o organau ar gael i’w trawsblannu.
Mewn gwledydd ble mae system caniatâd tybiedig ar waith, mae cyfradd y bobl sy’n rhoi organau’n uwch. Dyma ddetholiad o ddogfen a gyhoeddodd Cymdeithas Feddygol Prydain ym mis Awst 2007, sy’n dwyn y teitl “Organ donation –presumed consent for organ donation”
“A detailed regression analysis (2006) comparing 22 countries over 10 years took account of determinants that might affect donation rates: gross domestic product per capita, health expenditure, religious beliefs, legislative system, and number of deaths from traffic crashes and cerebrovascular diseases. They concluded "When other determinants of donation rates are accounted for, presumed consent countries have roughly 25-30% higher donation rates than informed consent countries." One explanation is that, even if the family has the final say, countries with presumed consent legislation have fewer refusals.”
Cyfeiriad: Abadie A, Gay S. The impact of presumed consent legislation on cadaveric organ donation: a cross-country study. J Health Econ 2006;25:599-620.
O ystyried yr uchod, mae’r deisebydd/wyr uchod yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru ofyn am bwerau deddfu o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i gyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru i newid y system bresennol sy’n gofyn i bobl ddewis rhoi organ, a chreu system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 2 Hydref 2008
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
17 Ionawr 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Ionawr 2008
2 Hydref 2008
