P-03-062 - Angen dybryd am glustogfa 500 Metr
Derbyniwyd y ddeiseb: 12 Gorffennaf 2007
Prif ddeisebydd: Vivienne Hadley
Nifer y deisebwyr: 4,514
Geiriad y ddeiseb:
I ddiogelu:
1) iechyd ein plant
2) ein cartrefi a'n hysgolion
3) ein hamgylchedd
rhag llygredd a pheryglon cloddio glo brig.
Ydych chi'n cofio'r llygredd oedd yn cael ei ryddhau yn Aberddawan?
Mae'r rheini ohonom sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon yn gofyn gyda pharch i Weinidogion Cymru sicrhau bod gennym ni, bobl Cymru, yr un hawliau â phobl eraill y DU, a hynny drwy sicrhau bod clustogfa 500m rhwng ein cartrefi a'n hysgolion ac unrhyw safle cloddio glo brig.
Rydym yn pryderu'n fawr y bydd y clustogfeydd hanfodol hyn yn cael eu cwtogi i ddim ond 350 metr, sy'n gwbl annigonol yn ein barn ni. O gyflwyno mesur o’r fath a lleoli diwydiant trwm mor agos atom, byddai’n diystyru'i effaith ar ein safon byw a'n hiechyd.
Mae'n ddyletswydd ar y Gweinidogion i amddiffyn pobl Cymru. Rydym yn credu bod gennym hawl naturiol i gael CLUSTOGFA 500 metr o amgylch safle glo brig ac y byddai unrhyw berson teg sy'n deall y sefyllfa'n cytuno â hyn. Dylid cyflwyno clustogfa 500 metr yn ddi-oed i osgoi unrhyw amwysedd, i'n hamddiffyn ni ac i ddiogelu dyfodol ein plant.
NID YDYM YN GOFYN AM DDIM MWY NA CHYFIAWNDER GAN EIN CYNULLIAD CENEDLAETHOL
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 17 Ionawr 2008
Linc I drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Ionawr 2008