P-03-072 - Mesur Gofalwyr Ifanc (Adnabod a Chymorth)
Derbyniwyd y ddeiseb: 12 Medi 2007
Prif ddeisebydd: Mr Barry W Cooper
Nifer y deisebwyr: 1
Geiriad y ddeiseb:
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Clybiau Rotari ar draws Cymru wedi dod yn ymwybodol o’r diffyg cydnabyddiaeth a chymorth sy’n cael ei roi i blant a phobl ifanc sy’n gofalu am eraill gartref, ar draul eu haddysg a’u bywyd cymdeithasol arferol eu hunain. Mae eu hiechyd yn dioddef a’u rhagolygon fel oedolion yn y dyfodol yn cael eu difetha. Nid yw Gofalwyr Ifanc yn gofyn llawer – maent yn anfodlon tynnu sylw atynt eu hunain rhag ofn chwalu’r teulu ac felly’n aros yn gudd o fewn cymdeithas. Nid yw’r sector statudol yn casglu ystadegau ond mae’r sector gwirfoddol yn amcangyfrif y gall fod tua 30,000 o Ofalwyr Ifanc yng Nghymru nad ydynt yn cael y gofal a’r sylw y credwn eu bod yn ei haeddu. Felly mae’r Clybiau Rotari wedi cymryd y rôl o fod yn Eiriolwyr drostynt.
Yr ydym ni, y cynrychiolwyr sydd wedi arwyddo isod, yn deisebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfrifoldeb penodol ar awdurdodau lleol i Adnabod ac i roi Cymorth i Ofalwyr Ifanc: awgrymwn mai’r ffordd orau o wneud hyn fyddai cynnwys pennod arbennig ar y pwnc ym Mesur arfaethedig y Cynulliad ar Fynd i’r afael â Thlodi Plant a Helpu Plant sy’n Agored i Niwed.
Wrth gwrs, gellid dadlau y bydd Gofalwyr Ifanc yn cael eu cynnwys yn y Mesur newydd beth bynnag gan fod llawer ohonynt, ond nid pob un, yn dioddef o dlodi ariannol, gyda rhai yn gorfod cardota neu ddwyn er mwyn bwydo brodyr neu chwiorydd sy’n cael eu hesgeuluso oherwydd dibyniaeth rhiant. Yn sicr maent i gyd yn dioddef o dlodi cymdeithasol. Gellid dadlau y bydd pob Gofalwr Ifanc yn cael ei gynnwys yn y diffiniad hwn beth bynnag gan fod pob un ohonynt yn agored i niwed ac angen cymorth a chefnogaeth.
Fodd bynnag byddem yn dadlau bod Gofalwyr Ifanc yn achos arbennig a gwahanol, gydag anghenion arbennig a gwahanol nad ydynt yn cael sylw gan y sector statudol ar hyn o bryd. Nid ydym am iddynt barhau i gael eu hanwybyddu mewn deddfwriaeth yn y dyfodol a chredwn eu bod yn haeddu pennod arbennig eu hunain yn y Mesur newydd, yn nodi anghenion penodol er mwyn adnabod a rhoi cymorth i Ofalwyr Ifanc.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 8 Rhagfyr 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2009
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 4 Hydref 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Tachwedd 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Rhagfyr 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Mawrth 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Mawrth 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 5 Mai 2009