P-03-085 - Meddygfeydd yn Sir y Fflint
Derbyniwyd y ddeiseb: 6 Hydref 2007
Prif ddeisebydd: Gillian Robinson
Nifer y deisebwyr: 412
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni feddygon ym Meddygfa’r Laurels, Meddygfa Eyton Place a Chanolfan Feddygol Allt Goch yn rhwystredig (fel yr ydych chi mae’n siwr) oherwydd yr anawsterau a gawn wrth geisio cynnig digon o apwyntiadau ar gyfer ein cleifion.Fel y gwyddoch, rydym wedi’n cyfyngu’n llwyr gan faint ein hadeilad ac mae gwir angen symud i safle mwy – mewn Canolfan Gofal Sylfaenol newydd os oes modd.
Mae’r cynnydd yn hyn o beth wedi dod i ben yn dilyn penodiad diweddar y Gweinidog Iechyd newydd a hoffem ddod â’n pryderon i’w sylw.
Gofynnwn i chi arwyddo’r ddeiseb hon i gefnogi’n hymdrechion i brysuro’r broses hon;
“Fel cleifion mewn Meddygfa yn Sir y Fflint, gofynnwn i’n Haelod Cynulliad, Mrs Sandy Mewies, roi pwysau ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu Canolfan Gofal Sylfaenol newydd ar fyrder”
Statws y ddeiseb: Ar agor
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
21 Chwefror 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 21 Chwefror 2008
10 Ebrill 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Ebril 2008
22 Mai 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Mai 2008
27 Ionawr 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 27 Ionawr 2009
31 Mawrth 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Mawrth 2009
27 Ebrill 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 27 Ebrill 2010
13 Gorffennaf 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2010
30 Tachwedd 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau mewn perthynas â’r trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint;
ysgrifennu at y deisebwyr i’w gwneud yn ymwybodol o ymateb Bwrdd Iechyd y Brifysgol, gan dynnu sylw at y ffaith bod y Bwrdd wedi nodi y bydd yn cynnwys y deisebwyr yn y broses ddatblygu ac i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cysylltiad hwn.
