Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-136 - Parcio yn Y Mynydd Bychan a Birchgrove

Derbyniwyd y ddeiseb: 23 Ebrill 2008

Prif ddeisebydd: Ron Page

Nifer y deisebwyr: 500+

Geiriad y ddeiseb:

Gofynnwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru:

1. Gynghori Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro i

Ddarparu digon o le parcio ar y safle ar gyfer staff ac ymwelwyr trwy gael ardaloedd addas ar gyfer parcio i’r ysbyty ar y safle ac ar dir fel yr ardal ddiffaith i’r gogledd o’r rhandiroedd gyferbyn ag Ysbyty’r Mynydd Bychan ar yr ochr arall i Eastern Avenue,

Datganoli rhai o’r gwasanaethau sydd eisoes ar safle’r Mynydd Bychan a

Pheidio â gwerthu tir ysbytai yng Nghaerdydd a’r ardal gyfagos ar gyfer tai.

2. Argymell bod Cyngor Sir Caerdydd yn

Gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu pellach ar safle Ysbyty’r Mynydd Bychan oni bai bod uned yn cael ei symud o’r safle, a fydd â’r un effaith ar draffig

Peidio â chefnogi datblygiadau amlfeddiannaeth yn yr ardal a

Chyflwyno system parcio am gyfnod cyfyngedig yn y strydoedd sydd o fewn pellter cerdded i Ysbyty’r Mynydd Bychan

3. Ystyried o fewn y Cynulliad, cyflwyno system a fyddai’n caniatáu i grwpiau lleol apelio i’r Cynulliad pan fydd y cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad y mae’r trigolion yn ystyried a fydd yn gwaethygu’r broblem barcio yn yr ardal.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 22 Mai 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Mai 2008

  • 9 Gorffennaf 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2008

  • 2 Hydref 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 2 Hydref 2008

  • 6 Tachwedd 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Tachwedd 2008

  • 13 Ionawr 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 13 Ionawr 2009

  • 27 Ionawr 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 27 Ionawr 2009

  • 17 Mawrth 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Mawrth 2009

  • 8 Rhagfyr 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2009